Caerdydd yn Cynnal Arweinwyr Rhyngwladol yn Trafod Bygythiad ac Effaith Tanau Gwyllt Ledled y Byd.

Haf diwethaf, profodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru effaith tanau gwyllt ar garreg eu drws gyda thanau dinistriol yng nghymoedd De Cymru. Roedd gwaddol y fath danau yn andwyol i gymunedau lleol, yr amgylchedd a chynefin bywyd gwyllt yn ogystal â pheri risg sylweddol i’r criwiau tân a oedd yn mynychu. Pan gododd y cyfle i gynnal cynhadledd bwrpasol ym Mhrifddinas Cymru yn tynnu arbenigwyr ac ymchwilwyr tanau gwyllt rhyngwladol ynghyd i rannu sgiliau a gwybodaeth arbenigol, derbyniwyd y cynnig heb unrhyw oedi.

Wedi’i hyrwyddo gan Fforwm Tanau Gwyllt Cymru a Lloegr ac wedi’i drefnu gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), cynhaliwyd y gynhadledd, o dan faner ‘Rheoli’r Tanwydd: Lleihau’r Risg’, yn Stadiwm eiconig Principality Caerdydd ar Ddydd Mercher yr 20fed a Dydd Iau’r 21ain o Dachwedd 2019. Roedd y gynhadledd yn gyfle unigryw i gynrychiolwyr ledled y byd rannu safbwynt eang ynghylch sut gall rheoli tir effeithiol a chydgysylltiol helpu gostwng perygl a chanlyniadau tanau gwyllt.

Gwelodd y digwyddiad dethol deuddydd o hyd 24 o siaradwyr yn rhannu llwyfan o wledydd sydd wedi profi tanau gwyllt sylweddol gan gynnwys Sbaen, Califfornia ac Awstralia.

Ymgysylltodd Athrawon Cadeiriol, Cyfarwyddwyr a Gwyddonwyr gyda’u hamrywiaeth anferth o brofiadau uniongyrchol wrth daclo a dadansoddi cymhlethdod tanau gwyllt a rhannu’r gwersi a ddysgwyd.

Dywedodd Rheolwr Gorsaf Craig Hope, o Dîm Tanau Gwyllt GTADC: “Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gwneud llawer o waith dros y 12 mlynedd ddiwethaf i wella ein hymateb, ein haddysgu a’n hataliad wrth fynd i’r afael â thanau gwyllt.  Fel Gwasanaeth, dim ond un o’r rhesymau y tu ôl i’r gynhadledd i rannu ein hagwedd ag ymatebwyr cyntaf ledled y byd yw ein dulliau rhagweithiol o reoli tanwydd. Cawsom danau yn Haf 2018 a oedd yr un mor eithafol â thanau yn Sbaen a De Affrica. Mae pethau’n newid – y llystyfiant – mae mwy a mwy o danwydd ar y mynyddoedd ac rydym yn profi tanau sy’n parhau’n hirach a thanau mwy difrifol yng nghymoedd De Cymru. Roedd y gynhadledd yn gyfle unigryw i ddysgu oddi wrth ein gilydd a darganfod ffyrdd newydd o ymateb i danau gwyllt a’u hatal.”

Hefyd o blith y tîm, dywedodd Rheolwr Grŵp Nigel Williams “Cyflwynodd y digwyddiad gyfle i ni nid yn unig arddangos dinas Caerdydd, ond casglu lliaws o arbenigwyr tanau gwyllt rhyngwladol i un man i rannu arferion gorau, rhannu syniadau, ac yn bwysicach, rhoi mesurau mewn lle i liniaru effeithiau tanau gwyllt ledled y byd.”

Roedd adborth gan gynrychiolwyr yn cynnwys;

“Y rhan orau o’r gynhadledd yw gweld cynifer o gynrychiolwyr o bob man ar draws y byd a’r ymchwil i ddefnyddio modelu cyfrifiadurol i ddarogan lle bydd tanau’n digwydd a’r niwed sy’n cael ei wneud. Nawr, mae gen i well ddealltwriaeth o sut mae tanwydd a gwahanol fathau o lystyfiant yn effeithio tanau gwyllt.”

“Fe ddes i i gasglu mewnwelediad ar ymladd tanau mewn gwahanol wledydd a dod â hwn yn ôl i’r Almaen. Mae’r rhwydweithio wedi bod yn ardderchog, gyda chynifer o straeon a safbwyntiau amrywiol law yn llaw â’r dadansoddiad o ddigwyddiadau blaenorol.”

Am ragor o wybodaeth gan gynnwys dolenni cyflwyno, ymwelwch â’n gwefan: https://www.southwales-fire.gov.uk/ewwf-wildfire-conference-2019/