‘Byddwch yn effro, peidiwch â chael eich brifo’ yn ystod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni

Wrth i Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt agosáu, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn paratoi ar gyfer amser prysur, gyda’r nod o wneud De Cymru’n ddiogelach drwy leihau risg yn ystod y cyfnod peryglus hwn.

Rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2022, roedd y nifer o ddigwyddiadau a fynychwyd gan GTADC o ganlyniad i dân gwyllt ddwywaith yn fwy na’r flwyddyn gynt. Mae’r risgiau sy’n ymwneud â choelcerthi a thân gwyllt yn hysbys iawn, a bob blwyddyn mae’r Gwasanaeth yn hyrwyddo ei negeseuon allweddol am ddiogelwch a lles, mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Eleni, y neges gyffredinol yw “arhoswch yn effro, peidiwch â chael eich brifo” yn ystod y tymor Calan Gaeaf a thân gwyllt.

Dywedodd Mike Hill, Rheolwr Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol GTADC:

“Bob blwyddyn, rydym yn mynychu digwyddiadau lle mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hanafu gan dân gwyllt a choelcerthi. Gofynnwn i bawb, lle bo’n bosibl, fynychu arddangosiadau a drefnwyd â mesurau diogelwch yn eu lle.”

Arddangosfeydd wedi’u trefnu

Mae diffoddwyr tân ac awdurdodau lleol yn cynnal arddangosfeydd tân gwyllt wedi’u trefnu ar gyfer 2023, i wneud yn siŵr y gallwch chi fwynhau noson tân gwyllt yn ddiogel.

Dyma rai o’r arddangosfeydd a drefnwyd y mae GTADC yn eu cefnogi eleni:

Blaenau Gwent

  • Bydd Gorsaf Dân ac Achub Glyn Ebwy yn cefnogi arddangosfa Tân Gwyllt wedi’i threfnu ym Mharc Eugene Cross ddydd Sul 5 Tachwedd 2023, gyda’r gatiau ar agor am 6:30yh. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Caerdydd

  • Bydd Gorsaf Dân ac Achub yr Eglwys Newydd yn cynnal eu harddangosfa wedi ei drefnu eu hunain Ddydd Sul 5 Tachwedd 2023, rhwng 6:00yh a 9:00yh. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Rhondda Cynon Taf

  • Bydd Gorsaf Dân ac Achub Glynrhedynog yn cefnogi arddangosfa Tân Gwyllt a drefnwyd yn Ysgol Gymunedol Glynrhedynog ddydd Gwener 3 Tachwedd 2023.
  • Bydd Gorsaf Dân ac Achub Gilfach Goch yn cefnogi arddangosfa Tân Gwyllt wedi’i threfnu yng Nghae Chwarae Hendreforgan Ddydd Sul 5 Tachwedd 2023. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

Dywedodd Bleddyn Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau, a Rheolwr Grŵp:

“Mae’r adeg hon o’r flwyddyn bob amser yn gyfnod prysur i’n Ddiffoddwyr Tân. Mae cynnau tân gwyllt gartref yn achosi risg sylweddol, felly byddwn bob amser yn annog y cyhoedd i fynychu arddangosfa a drefnir yn broffesiynol.

“Os ydych chi’n dewis cael eich arddangosfa eich hun, gwnewch hynny’n ofalus, cymerwch ofal eithriadol, a dilynwch the firework code.

“Mae ein neges yn un syml – byddwch yn gall a gofalwch amdanoch eich hun, ac ystyriwch eich cymdogion ac unrhyw anifeiliaid gerllaw. Rydym yn mynychu llawer o danau heb oruchwyliaeth, a gweld llawer o anafiadau a achosir gan dân gwyllt a choelcerthi allan o reolaeth. Mae hi’n braf edrych ar dân gwyllt, ond mae’n bwysig iawn i fod yn ofalus, a mwynhau’r dathliadau’n gyfrifol. Allwn ni ddim pwysleisio cymaint y gall ymddwyn yn anghyfrifol o gwmpas tanau a thân gwyllt gael canlyniadau dinistriol, gan achosi anafiadau sy’n bygwth bywyd.”

Os byddwch chi’n penderfynu cael tân gwyllt gartref, dilynwch y camau isod i sicrhau eich diogelwch chi a phawb o’ch cwmpas:

  • Sicrhewch fod pob tân gwyllt yn cydymffurfio â safonau a rheoliadau cymeradwy.
  • Peidiwch ag yfed alcohol os byddwch chi’n cynnau tân gwyllt.
  • Cadwch dân gwyllt mewn blwch caeedig, a dilynwch y cyfarwyddiadau yn ofalus bob amser wrth eu defnyddio.
  • Daliwch y tân gwyllt hyd fraich wrth eu cynnau gan ddefnyddio tapr, a safwch ymhell yn ôl.
  • Peidiwch byth â mynd yn ôl at dân gwyllt ar ôl iddynt gael eu cynnau. Hyd yn oed os nad yw tân gwyllt wedi cynnau, fe allai ffrwydro o hyd.
  • Peidiwch byth â thaflu tân gwyllt, a pheidiwch byth â’u rhoi yn eich poced.
  • Parchwch eich cymdogion – peidiwch â chynnau tân gwyllt yn hwyr y nos.
  • Byddwch yn ofalus gyda ffyn gwreichion – peidiwch byth â’u rhoi i blant dan bump oed.
  • Hyd yn oed pan fydd ffyn gwreichion wedi cael eu diffodd, maen nhw’n dal yn boeth – felly rhowch nhw mewn bwcedaid o ddŵr ar ôl eu defnyddio.
  • Cadwch eich anifeiliaid anwes dan do wrth gynnau tân gwyllt.

Lles anifeiliaid

Dangosodd arolwg diweddar a gynhaliwyd gan y RSPCA fod 63% o berchnogion anifeiliaid anwes wedi adrodd am arwyddion o drallod yn eu hanifeiliaid yn ystod y cyfnod tân gwyllt.

Derbyniodd y RSPCA 11,000 o ymatebion i’w harolwg adrodd am ddigwyddiadau tân gwyllt yn 2021 – daeth 68% o’r adroddiadau hyn gan aelodau o’r cyhoedd yr effeithiwyd ar eu hanifeiliaid gan arddangosiadau cartref preifat, ac ni chafodd 94% o’r rhai a ymatebodd i’n harolwg effaith yn 2021 rybudd ymlaen llaw am arddangosiadau tân gwyllt yn eu hardal.

Roedd 19% o adroddiadau a dderbyniwyd am anifeiliaid mewn trallod o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae RSPCA yn cynnal ei ymgyrch #BangOutOfOrder, sy’n galw am fwy o reolaeth dros arddangosfeydd tân gwyllt ers llawer o flynyddoedd.

I gael cyngor cyffredinol am les anifeiliaid yn ystod y cyfnod tân gwyllt eleni, ewch i wefan RSPCA website.

 

Cyngor diogelwch yn ystod Calan Gaeaf

Bob blwyddyn, mae ein Gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru (HDC) a Heddlu Gwent (HG) i sicrhau eich diogelwch chi yn ystod cyfnod Calan Gaeaf a thân gwyllt.

Dywedodd Sarsiant Andy Jones ar ran Heddlu De Cymru:

“Rydym yn gweithio unwaith eto gyda phartneriaid i atal anhrefn yn ymwneud â thân gwyllt yn ogystal â mathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Mae ymosodiadau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a llosgi bwriadol yn amlwg yn annerbyniol, a gall troseddwyr gael eu carcharu neu eu dirwyo. Rydym yn annog ein cymunedau i ddathlu’n ddiogel ac ymddwyn mewn ffordd gyfrifol.

“Bydd mwy o batrolau ar waith ar draws mannau problemus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i beidio â dioddef yn dawel; cysylltwch â ni os oes angen help arnoch.”

Os ydych chi eisiau adrodd pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch wneud mewn un o’r ffyrdd canlynol:

🗪 Sgwrs Fyw https://www.heddlude-cymru.uk/

💻 Adrodd ar-lein https://www.heddlude-cymru/ro/adroddiad

📧 E-bost swp101@heddlude-cymru.uk

📞 Galw 101 neu 999 mewn argyfwng bob amser

Cynghorion diogelwch tân eraill yn ystod Calan Gaeaf

  • Mae pwmpenni yn rhan annatod o dymor Calan Gaeaf, a gall eu cerfio fod yn hwyl. Er ei bod yn draddodiad i ddefnyddio canhwyllau i oleuo’r wynebau brawychus, rydym yn argymell newid i oleuadau batri fel opsiwn mwy diogel.
  • Mae Calan Gaeaf yn achlysur gwych i addurno eich cartref gyda phob math o addurniadau arswydus. Mae llawer o gartrefi yn defnyddio canhwyllau yn eu haddurniadau i gyfrannu at yr awyrgylch iasol. Byddem bob amser yn argymell defnyddio goleuadau batri yn y lle cyntaf, ond os dewiswch ddefnyddio canhwyllau, mae’n bwysig bod yn wyliadwrus o ran eu lleoli gan fod yn ofalus am unrhyw addurniadau eraill o’u cwmpas. Dylai canhwyllau gael eu hynysu’n ddigon pell i osgoi achosi unrhyw berygl, felly gwnewch yn siŵr bod addurniadau eraill neu unrhyw rannau sy’n hongian yn cael ddigon pell o’r fflamau noeth.
  • Sicrhewch fod canhwyllau yn sownd mewn daliwr priodol ac yn ddigon pell o ddeunyddiau a allai fynd ar dân – megis llenni. Diffoddwch ganhwyllau’n llwyr pan fyddwch chi’n gadael yr ystafell. Defnyddiwch laniadur neu lwy i ddiffodd canhwyllau, mae’n fwy diogel na’u chwythu allan gan y gall gwreichion hedfan. Cofiwch, ddylai plant byth gael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda chanhwyllau ynghyn.
  • Byddwch yn wyliadwrus o’r deunyddiau a ddefnyddir mewn gwisgoedd Calan Gaeaf. Mae deunyddiau synthetig yn llawer mwy fflamadwy na deunyddiau naturiol, felly cadwch lygad am wisgoedd sy’n cynnwys cotwm, sidan neu wlân. Bydd y deunyddiau synthetig yn fwy tebygol o fynd ar dân.