‘Arwyr Mewn Clustffonau’ – Wythnos Ystafell Reoli Ryngwladol

O 23 – 29 Hydref 2023, bydd Wythnos Ryngwladol yr Ystafell Reoli yn cael ei chydnabod ledled y byd, gan godi ymwybyddiaeth o’r rôl hanfodol a chwaraeir gan dimau ystafell reoli sy’n rheoli sefyllfaoedd trawmatig a thrallodus yn ddyddiol.

Mae’r ymgyrch ryngwladol hon yn tynnu sylw at waith achub bywyd a gwaith newid bywydau gweithwyr yr ystafell reoli fyd-eang, yn ogystal â chydnabod eu cryfder a’u gwytnwch.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eisiau dathlu ein cydweithwyr yn yr ystafell reoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos hon, i ddiolch iddynt am eu holl waith caled a bod yn ‘arwyr mewn clustffonau’.

Dywedodd Natalie Pearce, Pennaeth Rheoli Tân ar y Cyd yn GTADC:
“Dylem i gyd fod yn falch o’r gwaith y mae ein staff rheoli yn ei wneud bob dydd. Maen nhw i gyd yn ‘arwyr mewn clustffonau.’ Mae pob digwyddiad brys yn dechrau gyda galwad am help i ganolfan reoli’r gwasanaeth brys, ac yna anfonir cymorth yn gyflym i’r rhai yn Rydym yn diolch iddynt am eu hymroddiad a’u hymrwymiad i’w rôl.”

Mae’r staff yn ein hystafelloedd rheoli 999 yn delio â galwadau brys, yn darparu cyfarwyddiadau dros y ffôn, ac yn anfon ein hadnoddau ar draws De a Chanolbarth a Gorllewin Cymru, gan gefnogi digwyddiadau hyd at eu terfyn.

Dyma beth mae rhai Diffoddwyr Tân rheoli wedi’i ddweud am weithio i’r Gwasanaeth:

 

Dywedodd Diffoddwr Tân yr Ystafell Reoli, Claire:

Dywedodd Diffoddwr Tân yr Ystafell Reoli, Sabrina: