Arolwg Diwylliant Annibynnol – Cylch Gorchwyl

Bydd yr Adolygiad Diwylliant Annibynnol, dan arweiniad y Cadeirydd Fenella Morris CB, yn dechrau ym mis Ebrill 2023 a disgwylir iddo ddod i ben yn ystod y flwyddyn galendr hon.

Amcanion

Amcanion yr Arolwg, yn gryno, yw:

  • Asesu’r polisïau, gweithdrefnau a systemau cyfredol ar fwlio, aflonyddu, cwynion, pryderon chwythu’r chwiban, urddas yn y gwaith, cwynion ac unrhyw brosesau eraill ar gyfer codi pryderon, sut y cânt eu cymhwyso a sut maent yn cymharu ag arfer gorau;
  • Asesu polisïau a gweithdrefnau disgyblu presennol a sut y cânt eu cymhwyso, o gymharu â thelerau ac amodau cyflogaeth cenedlaethol ac arfer gorau;
  • Adolygu cwynion hanesyddol a gafwyd yn ystod y saith mlynedd diwethaf, gan gynnwys bwlio, aflonyddu, pryderon chwythu’r chwiban, a chwynion am urddas yn y gwaith a sut yr ymdriniwyd â hwy;
  • Adolygu sut yr ymdriniwyd ag achosion disgyblu staff dros y saith mlynedd diwethaf a sut mae hynny’n effeithio ar ddiwylliant;
  • Asesu effeithiolrwydd rhaglenni datblygu a hyfforddiant sy’n cefnogi urddas, parch ac atal ymddygiad amhriodol;
  • Ystyried a rhoi sylwadau ar werthoedd, ymddygiad, safonau a phenderfyniadau arweinwyr ar bob lefel yn y Gwasanaeth, yn broffesiynol ac yn bersonol (lle bo’n berthnasol), a sut maent yn effeithio ar ddiwylliant ac/neu’n dylanwadu arno;
  • Ystyried effaith ymddygiad unigol neu grŵp a safonau staff, a sut mae hyn yn dylanwadu ar ddiwylliant;
  • Rhoi sylwadau ynghylch a oes diwylliant agored a chefnogol, gan gynnwys cymorth i staff sy’n ymwneud â digwyddiadau trawmatig a’r effaith y gallai’r rheini ei chael;
  • Nodi meysydd cryfder, arfer dda ac ymddygiad enghreifftiol;
  • Ystyried profiadau amrywiol staff o safbwynt cydraddoldeb ac amrywiaeth; a
  • Gwneud argymhellion ar ganfyddiadau’r Adolygiad.

Sut y cynhelir yr Adolygiad

  • Cynnal ymchwil pen desg ar yr holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol, ynghyd â dogfennaeth ar gwynion ac achosion disgyblu blaenorol perthnasol.
  • Bydd staff cyfredol a chyn-aelodau staff, rheolwyr ac Aelodau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn cael eu cyfweld a’u gwahodd i rannu eu profiadau yn bersonol, trwy Dimau, a/neu yn ysgrifenedig.
  • Gall gynnwys ymweliadau â gorsafoedd i siarad â staff yn y gwaith ac asesu diwylliant y gweithle.
  • Bydd arolygon staff ar-lein a grwpiau ffocws i staff cyfredol rannu mewnwelediadau.
  • Mae’n debygol y bydd ymgysylltu â chyrff cynrychioliadol (Undeb y Brigadau Tân (FBU), GMB, Unison ac ati) ac asiantaethau partner allanol perthnasol yn ôl yr angen.
  • Ni fydd unrhyw staff cyfredol na chyn-aelodau o’r Gwasanaeth yn cael eu gorfodi i gymryd rhan yn yr Adolygiad hwn.

Nid yw’r termau hyn yn hollgynhwysfawr a gallant gael eu newid gan Gadeirydd yr Adolygiad Diwylliant Annibynnol, Fenella Morris CB.

Cewch weld y Cylch Gorchwyl cyflawn ar y fewnrwyd.