Arhoswch gartref, cadwch yn ddiogel Noson Tân Gwyllt eleni

Gan fod llawer o ddigwyddiadau a drefnwyd yn cael eu canslo, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn paratoi ar gyfer noson brysurach nag arfer wrth i bobl gynllunio i ddathlu yn eu gerddi eu hunain.

Yr ydym ar hyn o bryd yng nghanol pandemig byd-eang ac yr ydym yn gofyn i bobl am beidio â chymryd unrhyw risgiau, er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau brys.  Rydym yn gofyn i bawb ddangos PARCH ar Noson Tân Gwyllt eleni ac aros gartref a chadw’n ddiogel.

Y llynedd, rhwng y 23ain o Hydref a’r 6ed o Dachwedd mynychom 150 o danau bwriadol – gyda gostyngiad o 50% ers 2018. Hoffem weld y nifer hwn yn parhau i ddisgyn gan y gall mynychu digwyddiadau o ganlyniad i gamddefnyddio tân gwyllt a choelcerthi gostio munudau a allai arbed bywydau ac atal ein diffoddwyr tân rhag cyrraedd argyfyngau eraill ill dau. Gall tân gwyllt a choelcerthi fod yn beryglus iawn os na chânt eu rheoli a’u trin yn briodol. Peidiwch â pheryglu eich anwyliaid na’ch cymuned leol. Gall tanau ymledu a mynd allan o reolaeth mewn ychydig o eiliadau, gan beryglu difrod i eiddo, anaf a hyd yn oed farwolaeth. Gall digwyddiadau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio tân gwyllt a choelcerthi wastraffu munudau a allai achub bywydau gan atal ein diffoddwyr tân rhag cyrraedd achosion brys eraill.

Gall tân gwyllt ddychryn pobl ac anifeiliaid. Mae sŵn tân gwyllt yn aml yn dychryn ac yn codi ofn ar yr henoed a phlant ill dau. Wedi’r cyfan, ffrwydriaid yw tân gwyllt. Dywedwch wrth eich cymdogion os ydych chi’n bwriadu gollwng tân gwyllt a dylech osgoi prynu rhai swnllyd iawn. Gall mwg tân hefyd amharu ar y llwybrau anadlu, y croen a’r llygaid, gan achosi pesychu, gwichian, diffyg anadl a phoen yn y frest. Gall pobl sy’n dioddef gydag asthma a chlefydau anadlol eraill fynd yn sâl o ganlyniad i fwg tân. Mae’r bobl hyn hefyd mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19. Peidiwch â gwneud pethau’n waeth i hwythau, GIG na’r gwasanaethau brys. Gall tân gwyllt hefyd achosi llawer iawn o ofid i anifeiliaid. Mewn arolwg diweddar, dywedodd 62% o berchnogion cŵn fod eu hanifeiliaid anwes yn dangos arwyddion o bryder yn ystod tymor tân gwyllt, gyda 54% o berchnogion cathod yn profi’r un peth.

LAWRLWYTHWCH EIN TAFLEN DIOGELWCH TÂN GWYLLT YMA

Cofiwch mai ffrwydriaid yw tân gwyllt, ac felly dylid eu trin gyda pharch a’u ddefnyddio’n unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’r Cod Tân Gwyllt yn unig.

  • Gwnewch yn siŵr bod y tân gwyllt i gyd yn cydymffurfio â safonau a rheoliadau cymeradwy.
  • Peidiwch ag yfed alcohol os byddwch chi’n cynnau tân gwyllt.
  • Cadwch dân gwyllt mewn blwch caeedig a dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus bob amser wrth eu defnyddio.
  • Daliwch nhw hyd fraich wrth eu cynnau gan ddefnyddio tapr a sefwch yn ôl yn ddigon pell.
  • Peidiwch byth â mynd yn ôl atynt ar ôl eu cynnau. Hyd yn oed os nad yw tân gwyllt wedi tanio, gallant ffrwydro o hyd.
  • Peidiwch byth â thaflu tân gwyllt a pheidiwch byth â’u rhoi yn eich poced.
  • Parchwch eich cymdogion – peidiwch â gollwng tân gwyllt yn hwyr yn y nos a chofiwch y dylech weithredu’n unol â’r gyfraith.
  • Cymerwch ofal gyda ffyn gwreichion – peidiwch byth â’u rhoi i blant o dan bump oed.
  • Hyd yn oed pan fyddan nhw wedi diffodd maen nhw’n dal yn boeth felly dylech eu rhoi mewn bwcedaid o ddŵr ar ôl ei ddefnyddio.
  • Cadwch eich anifeiliaid anwes dan do gydol fin nos.

Gall coelcerthi hefyd fod yn risg tân sylweddol ac rydym yn cynghori preswylwyr i beidio â chynnau tanau mewn gerddi, a bod yn ystyriol o gymdogion â phroblemau anadlu a allai hefyd fod yn hunan-ynysu gyda symptomau Covid-19. Nid ydym yn cynghori neb i losgi gwastraff o’r ardd neu gartrefi. Yn lle hynny dylech ddefnyddio gwasanaethau gwastraff, ailgylchu a chompostio eich awdurdod lleol neu ei gadw tan y gallwch ei losgi.

Ceir rhagor o wybodaeth yma, gan gynnwys dolen i arweiniad Llywodraeth y DU.

 

Dywedodd Paul Mason, Rheolwr Grŵp, a Phennaeth Troseddau Tân a Diogelwch yn y Cartref: “Mae’r adeg hon o’r flwyddyn bob amser yn hwyl ac rydym am wneud yn siŵr bod pawb yn gallu mwynhau’r dathliadau’n ddiogel. Mae ein neges yn un syml – byddwch yn gall a gofalwch amdanoch chi eich hunain a’ch gilydd fel na fydd angen ein gwasanaethau arnoch yn ystod eich noson. Rydym yn mynychu llawer o danau heb oruchwyliaeth gydag anafiadau a achosir gan dân gwyllt a choelcerthi allan o reolaeth. Mae tân gwyllt a choelcerthi yn hwyl ond mae’n bwysig iawn i fod yn ofalus a mwynhau’r dathliadau gan fod yn gyfrifol. Gall ymddwyn yn anghyfrifol o gwmpas tanau a thân gwyllt arwain at ganlyniadau dinistriol, anafiadau sy’n bygwth bywyd a hyd yn oed golli bywydau.”

 Gellir atal anafiadau drwy ddilyn y cod Tân Gwyllt. Os byddwch chi’n cael eich llosgi, rhaid:-

  • Dal y llosgiad o dan ddŵr rhedegog oer am o leiaf ddeng munud.
  • Ar ôl i’r llosgiad gael ei oeri, gorchuddiwch ef â phlastig glynu neu fag plastig glân.
  • Ffonio 999 os oes angen. Dylech bob amser ofyn am gyngor meddygol i fabi neu blentyn sydd wedi cael ei losgi.

Mae pawb wrth eu bodd yn cael eu dychryn yn iawn adeg Calan Gaeaf, ond nid os bydd yn o ran diogelwch.

Cadwch yn ddiogel a dilynwch y cyngor isod;

Addurniadau

Mae Calan Gaeaf yn achlysur gwych i addurno eich cartref gyda phob math o addurniadau dychrynllyd. Mae llawer o gartrefi’n defnyddio canhwyllau yn eu haddurniadau i wella’r awyrgylch.  Byddem bob amser yn argymell eich bod yn defnyddio goleuadau â batris yn y lle cyntaf ond os byddwch chi’n dewis defnyddio canhwyllau, rhaid gofalu o ran eu gosod gan ystyried yr addurniadau eraill o’i gwmpas. Dylid cadw canhwyllau’n ddigon pell er mwyn osgoi achosi unrhyw berygl, felly gwnewch yn siŵr bod addurniadau neu unrhyw beth arall sy’n hongian yn ddigon pell o fflamau noeth.

Llusernau a Phwmpenni

Mae pwmpenni yn rhan annatod o dymor Calan Gaeaf, a gall cerfio un fod yn hwyl. Er eu bod yn draddodiadol yn cynnwys canhwyllau i oleuo eu mynegiant brawychus, rydym yn argymell y byddai newid i oleuadau batri yn opsiwn mwy diogel.

 

Diogelwch Canhwyllau

Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau’n cael eu gosod yn ddiogel mewn daliwr priodol yn ddigon pell o ddeunyddiau a allai fynd ar dân tân – megis llenni. Diffoddwch ganhwyllau pan fyddwch chi’n gadael yr ystafell, a gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu diffodd yn llwyr yn y nos. Defnyddiwch laniadur neu lwy i ddiffodd canhwyllau, mae’n fwy diogel na’u diffodd drwy chwythu arnynt gan y gall gwreichion hedfan. Cofiwch, ni ddylid byth adael plant ar ben eu hunain gyda chanhwyllau wedi’u goleuo.

Gwisgoedd

Byddwch yn ofalus o ran pa ddeunyddiau a ddefnyddir mewn gwisgoedd Calan Gaeaf. Mae deunyddiau synthetig yn llawer mwy fflamadwy na deunyddiau naturiol, felly ceisiwch ddod o hyd i wisgoedd sy’n cynnwys cotwm, sidan neu wlân. Bydd y deunyddiau hyn yn fwy gwrthfflam ac felly bydd mwy o amser i chi weithredu os bydd tân.

Am fwy o gyngor ac arweiniad, dilynwch y ddolen.