Apêl wrth i ymosodiadau ar weithwyr brys barhau i gynyddu!

Mae gweithwyr brys yng Nghymru yn atgoffa’r cyhoedd i’w trin nhw efo parch wrth i nifer yr ymosodiadau gynyddu. 

Dangosa’r ffigurau diweddaraf y bu 1,421 o ymosodiadau yn y cyfnod chwe mis rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2022, o’i gymharu â 1,396 yn yr un cyfnod y llynedd, sy’n cynrychioli cynnydd o 1.8%.

Roedd yr ymosodiadau’n amrywio o slapio, crafu, poeri ac ymosodiad geiriol i ddyrnu, brathu, cicio a tharo pennau.

Roedd arf yn rhan o saith digwyddiad, a gwnaeth mwy na chwarter yr ymosodiadau arwain at anaf.

Cyn cyfnod y partïon Nadolig, mae gweithwyr brys yn apelio ar y cyhoedd i’w trin nhw â pharch.

Ffigurau ar amrantiad: 

  • Gwnaeth nifer cyfartalog yr ymosodiadau misol gynyddu o 233 yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2021, i 241 yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2022, sy’n dangos cynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 3.4%
  • Mae bron i hanner (45.2%) o’r ymosodiadau ar weithwyr brys yn digwydd yn Ne Ddwyrain Cymru, a’r ardaloedd awdurdod lleol lle mae’n digwydd yn fwyaf mynych yw Caerdydd, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf
  • Yn ystod y 12 mis hyd at fis Mehefin 2022, roedd Wrecsam yn dangos y gyfradd ddigwyddiadau uchaf o ran ymosodiadau ar 1.21 am bob 1,000 o’r boblogaeth, wedi’i ddilyn gan Sir Ddinbych ar 1.20
  • Mae’r ddwy ardal wedi gweld cynnydd sylweddol o’i gymharu â’r 12 mis hyd at fis Mehefin 2021, gyda Wrecsam yn cynyddu o 98 digwyddiad i 164 digwyddiad (cynnydd o 66) a Sir Ddinbych yn cynyddu o 82 digwyddiad i 115 digwyddiad (cynnydd o 33)
  • Y tri lleoliad ar y brig o ran ymosodiadau ar weithwyr brys rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2022 oedd canol dinas Caerydd, Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd a Gorsaf Heddlu Canol Abertawe
  • Troseddwyr rhwng 26 a 35 oed sy’n cyfri am y gyfran uchaf o droseddu (23.6%)
  • Nosweithiau Gwener a Sadwrn sy’n gweld y nifer uchaf o ymosodiadau ar weithwyr brys, yn cynrychioli 26.2% o ddigwyddiadau yn chwe mis cyntaf 2022
  • Mae yfed alcohol yn parhau i fod y ffactor mwyaf, sy’n berthnasol i chwarter y digwyddiadau
  • Ers dechrau pandemig Covid-19 bu o leiaf 42 digwyddiad lle mae unigolion wedi pesychu’n fwriadol at weithiwr brys

Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:

“Mae’r cyfnod wrth i ni nesau at y Nadolig yn golygu bod mwy o bobl allan yn dathlu, ac mae yfed alcohol yn creu cynnydd yn yr ymosodiadau, y rhai corfforol a geiriol.

Cafwyd 77 o ymosodiadau geiriol ar ein staff yn ystafell rheoli’r ambiwlansau yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn.

Rydym ni’n gwybod ei bod yn gyfnod pryderus wrth i chi aros am gymorth, ond nid cam-drin ein hatebwyr galwadau yw’r ateb – os rhywbeth, gallai hynny oedi anfon help.

Efallai na fydd gan ein criwiau unrhyw ddewis ac eithrio gadael y sefyllfa os yw eu diogelwch personol dan fygythiad, a dydi hyn ddim yn helpu unrhyw un, yn enwedig y claf.

Mae gweithwyr brys yn bobl normal sy’n ceisio gwneud eu swydd – maen nhw yma i’ch helpu chi, felly dangoswch y parch a’r teilyngdod maen nhw’n eu haeddu, os gwelwch yn dda.”

Ymhlith y dioddefwyr ymosodiadau mae’r Cwnstabl Alisha Pontin a’r Cwnstabl Katie White o Heddlu De Cymru a ymatebodd i hysbysiad am darfiad ym Mhort Talbot yn gynharach eleni.

Tra roedden nhw yn y cyfeiriad gwnaeth y troseddwr, James Perry, fynd yn ymosodol a bygwth yn ddwy ohonyn nhw â chyllell.

Doedd ganddyn nhw ddim dewis ac eithrio defnyddio’r teclyn taser i’w atal.

Yn ddiweddarach cafodd Perry ddedfryd o 20 mis yn y carchar am achosi difrod troseddol, anhrefn cyhoeddus Adran 4, bygwth unigolyn ac eitem â llafn mewn man preifat ac ymosod ar weithiwr brys.

Dywedodd y Prif Arolygydd Gweithrediadau, James Ratti, Abertawe Castellnedd Port Talbot:

“Mae’r hyn a recordiwyd gan gamerâu corff swyddogion yn dangos y peryglon y gallan nhw eu wynebu ar unrhyw adeg.

Mae swyddogion yr heddlu yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl i amddiffyn pobl ac ni ddylen nhw wynebu ymosodiadau na cham-drin geiriol dan unrhyw amgylchiadau.

Mae mwyafrif helaeth o’r cyhoedd yn cefnogi gwaith ein swyddogion a bydd y fideo yn sioc iddyn nhw.

Rydw i’n arbennig o falch o broffesiynoldeb a dewrder y Cwnstabl Pontin a Chwnstabl White wrth ymdrin â’r digwyddiad hwn.”

Roedd ymosodiadau ar yr heddlu yn cyfri am 70.8% o gyfanswm yr ymosodiadau yn y cyfnod chwe mis dan sylw.

Dywedodd Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru:

“Hoffwn i chi ymuno â mi yn condemnio trais yn erbyn ein gweithwyr gwasanaethau brys.

Mae plismona yn waith heriol a pheryglus ar adegau.

Mae fy swyddogion yn dod i’w gwaith i wasanaethu a diogelu ein cymunedau bob dydd.

Ni ddylai unrhyw un ddod i’w gwaith yn ofni ymosodiad arnyn nhw.

Mae ymosodiadau ar swyddogion yr heddlu yn parhau i fod y rhai mwyaf mynych ymhlith gweithwyr brys, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol.

Wrth i ni ddod i mewn i gyfnod y Nadolig bydd gweithwyr gwasanaethau brys yn gweithio’n ddiflino ac yn methu ar amser gyda’u hanwyliaid, felly rwy’n gofyn i chi eu parchu a’u cefnogi, os gwelwch yn dda, wrth iddyn nhw weithio i gadw Cymru’n ddiogel.”

Er bod y niferoedd yn is – 27 digwyddiad dros y cyfnod chwe mis – roedd yr ymosodiadau ar gydweithwyr gwasanaeth tân yn cynnwys digwyddiad mewn maes chwarae lle gwnaeth person ifanc boeri ar ymladdwr tân.

Dywedodd Roger Thomas, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

“Mae’n warthus bod pobl yn ymosod ar weithwyr gwasanaethau brys wrth iddyn nhw weithio’n galed i ddiogelu cymunedau ac achub bywydau ac arbed eiddo.

Gall ymosodiadau o’r natur yma arwain at anafiadau corfforol, difrod i gerbydau ac offer achub bywyd ac mae’n effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl ein staff hefyd.

Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn goddef bygythiadau ac ymosodiadau corofforol ar ein staff ac rydym ni’n gweithio gyda’r Heddlu i sicrhau bod y tramgwyddwyr yn mynd trwy’r broses gyfiawnder.”

Dan y Ddeddf Ymosodiad ar Weithwyr Brys (Troseddau) mae’r diffiniad gweithwyr brys yn cynnwys staff yr heddlu, gwasanaeth tân ac ambiwlans yn ogystal â staff carchar, gweithwyr chwilio ac achub a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru:

“Mae ein gweithwyr brys yn darparu gofal achub bywyd a newid bywydau bob dydd, mewn amgylchiadau anodd iawn yn aml.

Mae cyfnod y Nadolig yn gyfnod heriol i’n staff GIG bob amser, sydd eisoes yn wynebu galw digynsail am y gwasanaeth felly, nawr fwy nag erioed, maen nhw’n haeddu cael eu trin â pharch.

Mae unrhyw fath o weithwyr brys yn hollol annerbyniol ac rydym ni’n gwneud popeth a fedrwn i weithio â chyflogeion GIG Cymru a’n hasiantaethau partner i atal ymosodiadau corfforol a geiriol ar ein staff.”

Lansiwyd yr ymgyrch Gyda Ni, Nid yn Ein Herbyn ym mis Mai 2021 gan y Grŵp Gwasanaethau Brys ar y Cyd yng Nghymru, sy’n cynnwys y gwasanaethau goleuadau glas, y Lluoedd Arfog, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, i ystyried materion o fudd i bawb ar draws y gwasanaethau.

Cofrestrwch eich cefnogaeth ac ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn a/neu #WithUsNotAgainstUs.