Adroddiad HMICFRS – Ymateb y Gwasanaeth

Ar 30 Mawrth 2023, cyhoeddodd Arolygiaeth Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) adroddiad ar werthoedd a diwylliant mewn gwasanaethau tân ac achub yn Lloegr.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM:

Mae’n amlwg o’r digwyddiad Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân ar ddiwylliant a chynhwysiant ac adroddiad Arolygiaeth Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS), ein bod yn buddsoddi’n sylweddol mewn hyfforddi ein Difoddwyr Tân i ymateb yn effeithiol i ddiogelu’r cyhoedd mewn argyfyngau. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod y gallem wneud mwy er mwyn sicrhau bod hyfforddiant staff mewn perthynas â gwerthoedd diwylliannol yn dileu ymddygiad annerbyniol ac amhriodol. Yn ogystal â chomisiynu Adolygiad Diwylliant Annibynnol o’n Gwasanaeth ein hunain, dan arweiniad Fenella Morris CB, rwyf wedi sefydlu tîm i fynd i’r afael ag argymhellion adroddiad Arolygiaeth Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi. Rydym mewn trafodaethau datblygedig fydd yn golygu mai ni yw gwasanaeth tân ac achub cyntaf i lansio llinell gymorth ‘Speak Up Crimestoppers’ y Gwasanaeth Tân ac Achub. Drwy law’r llinell gymorth a’r wefan annibynnol hon gall ein staff  adrodd unrhywbeth nad yw’n iawn. Drwy fynd i’r afael â’r heriau hyn y bydd gennym Wasanaeth sy’n well ac yn gwirioneddol gynhwysol.”