Apêl tanau bwriadol – helpwch i leihau’r galw ar ddiffoddwyr tân

Yr wythnos hon mae ein criwiau wedi mynychu nifer o danau glaswellt a sbwriel ar draws De Cymru, ac rydym yn amau efallai eu bod wedi cael eu cynnau’n fwriadol.

Mae rhai wedi gofyn am bresenoldeb nifer o beiriannau tân, defnyddio offer critigol a symud adnoddau.
Mae tanau bwriadol fel hyn yn peryglu bywydau ein diffoddwyr tân, yn achosi risg i’r gymuned ac yn gallu achosi niwed sylweddol i eiddo a’r amgylchedd.

Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, rydym yn gweithio gyda’n partneriaid ledled Cymru fel rhan o Ymgyrch Dawns Glaw, tasglu a sefydlwyd i leihau nifer y tanau bwriadol.

Mae’n bwysig ein bod ni’n pwysleisio, achos y coronafeirws, mae ein sefyllfa bresennol yn ddigynsail.

Er ein bod yn parhau’n ymrwymedig i ddarparu ymateb brys effeithiol ac effeithlon ledled De Cymru, rydym yn ymwybodol iawn y bydd llawer mwy o deuluoedd yn treulio amser gartref, yn coginio, yn golchi ac yn defnyddio eitemau trydanol, sy’n cynyddu’r risg o dân posibl. Bydd dargyfeirio ein hadnoddau i ddelio â thanau bwriadol yn tynnu adnoddau sylfaenol a gwerthfawr oddi wrth ein cymunedau, gan greu risg ddiangen i fywydau.

Byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth ar amheuaeth o danau bwriadol, neu sy’n gweld unrhyw beth amheus i gysylltu â 101, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800555111.

Os gwelwch chi dân, neu unrhyw un sy’n dechrau tân, ffoniwch 999 ar unwaith.

Dilynwch gyngor y Llywodraeth a’r gwasanaethau iechyd am gadw pellter cymdeithasol – os gwelwch yn dda, os gallwch chi arhoswch gartref.