Llosgi tactegol yn ganiatau i Linell Phoenix Zip World ail-agor

Ar 9 Mehefin 2023, ymatebodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) i adroddiadau am dân gwyllt ar raddfa fawr ar Fynydd y Rhigos. 

Mae ein criwiau wedi bod yn gweithio’n ddiflino i ymateb i’r dân gwyllt a’u rheoli ochr yn ochr â chydweithwyr yn y gwasanaethau brys ac asiantaethau partner. 

Roedd y tân gwyllt wedi parhau i losgi dros sawl diwrnod ac wedi dinistrio tua 160 hectar o dir – mae hynny’n fwy na 200 o gaeau pêl-droed!  

Mae tanau gwyllt, yn enwedig rhai o’r raddfa hon, yn peryglu bywydau ac eiddo cymunedau – heb sôn am fywyd gwyllt a’r difrod i gynefinoedd. Y tro hwn, mae’r tân gwyllt hefyd wedi cael effaith uniongyrchol ar y gymuned leol wrth i ffyrdd gael eu cau a llawer iawn o fwg yn yr ardal. 

Cafodd Zip World Tower yn Hirwaun hefyd ei effeithio gan y tân gwyllt, gan orfod cau ei Linell Phoenix oherwydd pryderon diogelwch. Cwblhaodd ein criwiau losgiad tactegol i helpu i amddiffyn yr ardaloedd cyfagos. Ar ôl cynnal gwiriadau diogelwch trylwyr ac asesiadau risg, llwyddodd yr atyniad twristiaid i ailagor. 

Dywedodd llefarydd ar ran Zip World: 

“Hoffem ddiolch i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am eu gwaith caled i gyfyngu a diffodd y tân, yn ogystal â’u diweddariadau rheolaidd a chyngor proffesiynol trwy gydol yr amser hwn.” 

Mae ein Huned Troseddau Tân, mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru a Gwent, wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o ganlyniadau cynnau tanau yn fwriadol yn ein cymunedau. 

Rydym yn annog pawb i fod yn wyliadwrus ac i riportio unrhyw wybodaeth am gynnau tânau fwriadol i Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.