Gweithio Gydag Asiantaethau Eraill

Ein nod yw ymgysylltu â sefydliadau elusennol a gwirfoddol y trydydd sector i leihau’r nifer o danau damweiniol yn y cartref drwy gyflwyno mwy o ymweliadau diogelwch ac iechyd i unigolion sy’n perthyn i grwpiau sy’n agored i niwed.

Drwy weithio â sefydliadau partner mae’r Gwasanaeth tân ac Achub yn gallu ymgysylltu â chleientiaid risg uchel/ sy’n agored i niwed a allai fod allan o’u cyrraedd fel arall. Mae’r prif ffocws wedi bod ar ymgysylltu â sefydliadau sy’n gweithio â’r grwpiau hyn yn rheolaidd.

Rydym yn parhau i fod yn weithredol wrth adnabod ac ymgysylltu â mwy o asiantiaethau partner ac i gael gwybodaeth bellach cysylltwch drwy law e-bost â CFS@southwales-fire.gov.uk, neu cysylltwch â ni ar 01443 232000.