Tasglu Adeiladau Uchel Iawn yn Cynnal Hyfforddiant Gwerthfawr i Recriwtiaid
Yn ddiweddar, sefydlodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Dasglu Adeiladau Uchel Iawn llawn amser mewn ymateb i argymhellion Adolygiadau Thematig ac Adroddiadau Grenfell Cam Un a Dau. Hyd yn hyn mae’r tîm wedi canolbwyntio ar adeiladu ymateb mwy cadarn i weithrediadau achub o adeiladau uchel iawn – gyda chynlluniau gwacáu, cynllunio ac ymgyfarwyddo yn cael eu rhoi ar waith.
Dywedodd Mike Wyatt, Arweinydd Tîm a Rheolwr Ardal: “Mae’r tasglu wedi dod ynghyd i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau argymelledig ar gyfer adeiladau uchel iawn, ond mae e’n mynd ymhellach o lawer na hynny.”
“Mae’r tîm a minnau’n rhannu’r uchelgais o fod yn arloeswyr mewn protocolau gwacáu a hyfforddiant adeiladau uchel iawn, ac rydym eisiau rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r offer i’n staff i’w galluogi i fod yn barod ar gyfer rhai o’n digwyddiadau mwyaf heriol.”
Y llynedd, cyflwynodd y Tasglu Adeiladau Uchel Iawn 29 o sesiynau hyfforddiant adeiladau uchel iawn yn eu lleoliad yn Brecknock House, adeilad uchel iawn a fenthycwyd i’r gwasanaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Yn dilyn yr hyfforddiant cafwyd adborth 4.9 allan o 5-seren gan ein staff a fynegodd eu gwerthfawrogiad o’r sesiynau dull gweithdy am sgiliau craidd ymladd tân uchel a chyflwyniad i wacáu mewn argyfwng. Mae’r tîm wedi creu cyfnodau o hyfforddiant ar gyfer yr holl griwiau, rheolwyr, a Gweithredwyr Ystafell Reoli, gan gwmpasu pob agwedd ar ymladd tân a gwacáu adeiladau uchel iawn. Hefyd, mae hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus wedi’i roi ar waith i bob rheolwr digwyddiad, gan gynnwys ymgyfarwyddo, gloywi a hyfforddiant digwyddiadau.
Mae cam un wedi’i gwblhau, gyda’r holl griwiau system ddyletswydd gyflawn a rheolwyr TAC wedi’u hyfforddi’n llawn erbyn hyn. Dechreuodd cam dau ym mis Ebrill eleni, ac mae e’n cynnwys hyfforddiant i’r holl griwiau ar alwad, gan ganolbwyntio ar adeiladu a diffygion, ynghyd â gweithdrefnau gwacáu. Mae adeiladu’n agwedd hanfodol ar ymladd tân mewn adeiladau uchel iawn, gan y gall bennu pa mor gyflym y bydd tân yn lledu, pa fesurau diogelwch sydd ar waith, a pha ddulliau i’w defnyddio ar gyfer gwacáu. Mae diffygion adeiladau hefyd yn bwnc hollbwysig, gan y gallai fod rhaid i ddiffoddwyr tân ddelio â’r sefyllfaoedd gwaethaf bosib lle nid yw mecanweithiau diogelwch (megis drysau tân, mecanweithiau atal lifftiau neu larymau) yn gweithio.
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys defnyddio technolegau trochi 360°, gan gynnwys efelychiadau rhithwir. Yma, gall penderfyniadau a sgiliau hyfforddeion gael eu profi gyda gwahanol senarios y gall hyfforddwr eu newid yn gyflym. Mae’r hyfforddiant hwn yn defnyddio senario a gynhyrchir gan gyfrifiadur sy’n cynnig y cyfle i gynnal digwyddiadau efelychiedig i ganiatáu ymarfer dan arweiniad a dysgu am reoli digwyddiadau. Mae’r dysgu rhithwir hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd â’r hyfforddiant mewn lleoliadau, sy’n galluogi hyfforddeion i ymgynefino ac ymarfer â digwyddiadau gwirioneddol. Eleni, mae’r tîm wedi bod yn ymestyn eu pecynnau hyfforddi, gyda mwy o sesiynau rhyngweithiol a gweithdai am offer, deall adeiladu adeiladau uchel iawn, systemau diffodd tân a dulliau gwacáu.
Rhoddwyd hyfforddiant lefel uchel i recriwtiaid yn ddiweddar yn ystod eu hyfforddiant cychwynnol14 wythnos o hyd . Meddai’r Rheolwr Gorsaf Kieran Williams: “Dyma gyfle da iawn i’r recriwtiaid newydd gael cipolwg ar ddiffodd tanau mewn adeiladau uchel iawn. Ar hyn o bryd rydym yn cyflwyno gweithdrefnau newydd ar gyfer adeiladau uchel iawn, ac maen nhw’n gallu cael mynediad iddynt o gychwyn eu gyrfaoedd, er mwyn iddynt baratoi a bod yn barod ar gyfer gweithio yn yr orsaf.”
Rhoddodd y diwrnod hyfforddi gyfle i’r recriwtiaid ddysgu’n ymarferol mewn amgylchedd dilys, sy’n amhrisiadwy ar gyfer ymarfer sgiliau. Treuliodd y recriwtiaid fore yn ymgynefino a dysgu am dechnegau gwacáu, yn ogystal â heriau a dulliau sy’n benodol i adeiladau uchel iawn. Wedyn fe wnaethon nhw gymhwyso’r sgiliau ar gyfer tanau efelychol mewn bloc o fflatiau uchel iawn, gyda mwg, a dymis trwm i gynrychioli ‘preswylwyr’.
Dywedodd Adrienne Foster, recriwt, sy’n gyn-weithredwr 999 yn yr Ystafell Reoli gyda’r gwasanaeth: “Mae hi wedi bod yn ddiddorol iawn ac yn eithaf heriol. Bydd yr hyfforddiant yn ddefnyddiol. Gyda’r nifer o adeiladau uchel iawn yn cynyddu, yn enwedig yng nghanol dinasoedd, mae’n bwysig iawn bod pob recriwt yn gwybod beth i’w wneud. Hyd yn oed os ydych chi’n gweithio mewn gorsaf yn y Cymoedd, os byddwch chi’n mynd i gyflenwi i orsaf arall.”
Dywedodd Kirsty Williams, Comisiynydd, CBE, oedd yn yr hyfforddiant: “Rydyn ni’n gwybod mai adeiladau uchel iawn yw rhai o’r risgiau mwyaf y mae’n rhaid i ni fel gwasanaeth fynd i’r afael â nhw, ac mae gweld sut mae’r tîm adeiladau uchel iawn yn hyfforddi ein recriwtiaid newydd yn wych. Mae adeiladau uchel iawn yn creu sefyllfa gymhleth dros ben i ni, ac rydyn ni’n ymwybodol o’r canlyniadau dinistriol posib i’n staff a’r cyhoedd os nad ydyn ni’n cael popeth yn iawn Mae cael gweld yr hyfforddiant wedi bod yn brofiad trawiadol iawn.
“Rydym yn ffodus iawn i gael benthyg y cyfleuster hwn gan y bwrdd iechyd lleol. Mae wedi rhoi llawer iawn o sicrwydd i fi, ar ôl ei weld dros fy hun. Rwy’n gwybod am yr hyn mae’r gwasanaeth yn ei wneud i sicrhau bod gan ein staff y sgiliau i ymateb a chadw ein poblogaeth leol yn ddiogel.”
Mae Rheolwr Gorsaf Kieran Williams a’i gyd-hyfforddwr tasglu Rheolwr Gorsaf Jason Lamport yn aelodau o Grŵp Tanau mewn Adeiladau Uchel Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân – sy’n cynghori ar bolisi a gweithdrefnau cenedlaethol. Fel rhan o’u gwaith parhaus, mae’r Tasglu Adeiladau Uchel Iawn yn cynnal trafodaethau ag aelodau o Lywodraeth Cymru i helpu i lywio newidiadau polisïau a deddfwriaeth sy’n effeithio ar y sawl sy’n gyfrifol am reoli, cynnal a sicrhau diogelwch tân mewn adeiladau uchel.
Dywedodd Rheolwr Gorsaf Lamport: “Mae byd diffodd tân mewn adeiladau uchel iawn yn newid mor gyflym â’r adeiladau o’n cwmpas. Mae offer a thactegau’n esblygu, ac rydym eisiau sicrhau bod ein criwiau, ein rheolwyr a’n staff ystafell reoli ar flaen y gad. Ond mae hefyd yn hanfodol ein bod ni’n gweithio ochr yn ochr â’n cydweithwyr Diogelwch Tân Busnes a Diogelwch Cymunedol i adeiladu un cynllun strategol ar gyfer ein landlordiaid a’n preswylwyr.”
Ychwanegodd: “Mae’r buddsoddiad yn y tasglu yn dangos faint o bwys y mae’r Comisiynwyr, y Prif Swyddog Tân a’r Uwch Dîm Arwain yn rhoi ar gynnydd o ran ymladd tân mewn adeiladau uchel iawn yn Ne Cymru. Edrychwn ymlaen at ddiwallu gofynion yr her a’ch gweld chi i gyd ym Mhorth Caerdydd a Thŷ Brycheiniog. Rydym yn benderfynol i wella hyfforddiant ymladd tân mewn adeiladau uchel iawn a sicrhau eich bod chi a’n cymunedau yn ddiogel, yn hyderus ac yn barod.”
Trwy roi hyfforddiant helaeth i ddiffoddwyr tân a gwaith parhaus y Tîm Adeiladau Uchel Iawn, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cryfhau ei ymateb i danau mewn adeiladau uchel iawn – gan helpu i gadw De Cymru yn ddiogel.
I ddarganfod mwy am fyw mewn adeiladau uchel, a sut y gallwch chi gadw’n ddiogel, cliciwch yma.