Y bore yma, rhannodd Arolygiaeth Cwnstabliaid a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) eu hadroddiad ar ganfyddiadau arolygiad a gynhaliwyd ganddynt o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ym mis Tachwedd 2024.
Pan ymunodd y Comisiynwyr â’r gwasanaeth, gofynnwyd am arolygiad cyfannol annibynnol o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru gan HMICFRS i nodi meysydd i’w gwella. Dyma’r tro cyntaf i hyn gael ei wneud yng Nghymru, gan ddefnyddio’r yr un gyfundrefn arolygu HMICFRS a ddefnyddir mewn mannau eraill yn y DU.
Rydym yn gwrando, yn dysgu, ac yn ceisio arwain y ffordd wrth drawsnewid diwylliannau’r gwasanaeth tân ac achub, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth eithriadol drwy drawsnewid yn fewnol i adlewyrchu ein gwerthoedd sef gynwysoldeb, tryloywder ac atebolrwydd.
Wrth annerch cydweithwyr ddoe, dywedodd Fin Monahan, y Prif Swyddog Tân, “Mae hi’n anodd clywed yr hyn sy gan yr adroddiad i’w ddweud. Y prif feysydd ar gyfer gwella i ni yn ôl yr adroddiad yw deall y risg o dân ac argyfyngau eraill a diogelu’r cyhoedd trwy law rheoliadau tân.”
“Rydym yn gwerthfawrogi’r adborth a gawsom gan gydweithwyr. Bu hwn yn sail i’r adroddiad. Diolchwn hefyd i’r tîm arolygu am yr eglurder annibynnol a gafwyd ganddynt ar draws 11 maes yn cynnwys effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a phobl.”
“Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, dyma’r tro cyntaf i ni brofi’r drefn archwilio drylwyr hon. Gadewch i ni gofio bod llawer o amser wedi mynd heibio ers yr arolygiad. Dechreuodd cyn i mi gyrraedd, a daeth i ben yn ystod fy ail wythnos gyda’r Gwasanaeth; mae’n giplun amser chwe mis yn ôl. Mae llawer wedi newid ers hynny.”
“Hoffwn dawelu eich meddwl. Mae gennym gynllun cadarn ar gyfer ymdrin â’r argymhellion hyn yn ein strategaeth trosfwaol, y cyntaf i’r gwasanaeth hwn. Mae 60 o linynnau gwaith yn perthyn iddo ac erbyn hyn hwn sy’n llywio’r cynllun strategol a holl weithgareddau eraill y Gwasanaeth hwn. Rydym eisoes wedi rhoi llawer o’r gwaith hwn ar waith.”
Dyma enghreifftiau:
- Rydym yn gweithredu’r cam cyntaf ers tri mis erbyn hyn, sef cyflwyno cynllun rheoli risg cymunedol (CRMP) gwasanaeth cyfan, sy’n wahanol iawn i CRMP ar lefel gorsaf. Bydd y cynllun yn edrych ar yr holl risgiau i’r gymuned a diffoddwyr tân ar draws y gwasanaeth a bydd yn ein galluogi i bennu ein gallu i atal, amddiffyn ac ymateb.
- Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas â’n hymagwedd at ddysgu – gyda lansiad Academi Arweinyddiaeth a Datblygiad Personol newydd.
- Rydym yn cyfuno dau dîm, i ddatblygu tîm sicrwydd gweithredol dysgu ar gyfer y gwasanaeth cyfan, er mwyn dal dysgu gweithredol mewn ffordd well o lawer i amddiffyn y cyhoedd a diffoddwyr tân.
- Rydym wedi sefydlu Melin Drafod Tân ar gyfer y Dyfodol sy’n ystyried sut rydym yn cynllunio ein hadnoddau a mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd ac i’r dyfodol.
- O ran pobl, rydym wedi treialu gweithio hyblyg; cyflwyno pecyn cyfryngu; lansio dysgu Gofalu am Ymddygiadau a llawer mwy.
Mae’r strategaeth, a oruchwylir gan y Comisiynwyr, yn dwyn ynghyd yr ymateb cyffredinol i:
- Transformation Programme, with nine key areas of work that deliver the recommendations of the Independent Culture Review from early 2024
- The areas of work identified in the self-assessment in preparation for the HMICFRS Inspection
- Thematic Reviews by the Chief Fire and Rescue Advisor for Wales from summer 2024. Rhaglen Drawsnewid, gyda naw maes gwaith allweddol sy’n cyflawni argymhellion yr Adolygiad Diwylliant Annibynnol ers dechrau 2024
- Y meysydd gwaith a nodir yn yr hunanasesiad wrth baratoi ar gyfer Arolygiad HMICFRS
- Adolygiadau Thematig gan Brif Gynghorydd Tân ac Achub Cymru ers haf 2024.
Mae rhagor o wybodaeth gefndir am gynnydd ar welliannau sy’n cael eu cyflawni ar gael yma Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
DIWEDD
Nodiadau i’r golygydd:
Mae llawer o waith eisoes ar y gweill sy’n mynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad. Maent yn cynnwys:
- Prif Swyddog Tân newydd, Fin Monahan, sy’n arbenigwr mewn newid diwylliant ac arweinyddiaeth strategol profedig.
- Strategaeth newydd sy’n amlinellu’r gwaith sydd ei angen i gwrdd â’r safonau a ddisgwylir ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub ac yn edrych i’r dyfodol.
- Mae’r strategaeth yn cynnwys gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd wedi’u diweddaru. Mae hefyd yn amlinellu’n glir safonau ymddygiad sy’n cyd-fynd â fframwaith arweinyddiaeth Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân.
- Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas â’nn hymagwedd at ddysgu – gyda lansiad Academi Arweinyddiaeth a Datblygiad Personol newydd.
- Mae sesiwn hyfforddi newydd o’r enw Gofalu am Ymddygiadau wedi’i datblygu i amlinellu disgwyliadau ar gyfer ein holl gydweithwyr. Mae hon eisoes wedi’i gyflwyno i’r uwch dîm arwain, cyn iddo gael ei gyflwyno i bob cydweithiwr.
- Rydym yn dysgu gan eraill am y ffordd orau i nodi a lliniaru risgiau ac rydym yn ceisio dull newydd o reoli a lliniaru ein risgiau allweddol.
- Mae criwiau ein holl orsafoedd yn gweithio gyda phartneriaid cymunedol lleol i nodi risgiau ac yn ceisio eu deall a’u lliniaru.
- O ran pobl, rydym wedi treialu gweithio hyblyg; cyflwyno pecyn cyfryngu; lansio dysgu Gofalu am Ymddygiadau a llawer mwy.
- Gwella ein prosesau recriwtio ar gyfer rolau arweinyddiaeth uwch i fod yn fwy tryloyw.
- Rydym wedi ymgynghori â chydweithwyr ar y broses ddyrchafu ac rydym yn datblygu fframwaith newydd.
- Rydyn ni’n newid y ffordd rydyn ni’n cyfathrebu â’n pobl, y bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw, y cyfryngau a phobl yn ein cymunedau.
- Rydym yn chwilio am arbenigedd allanol drwy law ein Melin Drafod Tân y Dyfodol i edrych i’r dyfodol a chynllunio ein hadnoddau a’n hymagwedd ar gyfer yr heriau sy’n ein hwynebu nawr ac yn y dyfodol.
- Rydym yn sefydlu Bwrdd Diwylliant ac Ymgysylltu i lais y staff i’w glywed ar lefel strategol a monitro’r sefyllfa ddiwylliannol.
- Ar hyn o bryd rydym yn hysbysebu am aelodau i ymuno â Grŵp Cynghori Annibynnol (GCA) sydd â gwybodaeth, profiad ac arbenigedd mewn meysydd megis amrywiaeth, cynhwysiant, cydlyniant a chydraddoldeb newid diwylliannol, y sector gwirfoddol a chyhoeddus ac arolygu.