Datganiad gan Gomisiynwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Mae Comisiynwyr ATA De Cymru yn croesawu’r adroddiad i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), a gynhaliwyd gan HMICFRS. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar adroddiadau blaenorol gan y Prif Gynghorydd Tân ac Achub i lywodraeth Cymru ac adolygiad Fenella Morris CB.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi asesiad cadarn o berfformiad yn erbyn ystod gynhwysfawr o ffactorau a ddefnyddir yn aml ar gyfer asesiadau yng ngweddill Gwasanaethau Tân ac Achub y DU. Yn dilyn yr arolygiad ar ddiwedd 2024, rydym yn falch bod cryn gynnydd wedi’i wneud wrth fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad.

Mae Carl Foulkes, un o’r Comisiynwyr, yn cadeirio’r bwrdd gwella gwasanaethau sy’n parhau i fonitro perfformiad ar gynnydd a darpariaeth bob chwe wythnos.

Edrychwn ymlaen at ail ymweliad HMICFRS yn ystod y 12-18 mis nesaf ac rydym yn hyderus o ran y cyflymder a lefel y cynnydd sy’n cael ei wneud wrth gyflawni’r deilliannau hynny.

DIWEDD