Ymarferiad hyfforddi aml-asiantaeth ym Maes Awyr Caerdydd yn dyrchafu ymateb brys
Cymrodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) ran mewn ymarferiad hyfforddi aml-asiantaeth ym Maes Awyr Caerdydd ar ddydd Mercher y 4ydd o Fehefin law yn llaw â Heddlu De Cymru (HDC), Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), Cyngor Bro Morgannwg (CBM), staff Maes Awyr Caerdydd a’r Tîm Ymateb Mewn Ardaloedd Peryglus (HART). Bwriad yr ymarferiad oedd dyrchafu’r ymateb brys a gwella cyd-gysylltiadau ag asiantaethau partner pe bai digwyddiad mawr yn digwydd.
Dynwaredodd y senario awyren gargo yn cyflawni glaniad brys gyda thân ar ei bwrdd ynghyd â chwe aelod o’r criw. Criwiau o Orsaf Dân Maes Awyr Caerdydd oedd y cyntaf ar y safle, yn mynd i’r afael â thân allanol gyda chymorth carthen ewyn i atal dwysâd.
Danfonwyd criwiau GTADC o’r Barri i’r safle hefyd i reoli’r tân mewnol. Aeth wyth diffoddwr tân yn gwisgo offer anadlu, gan gynnwys dau aelod o’r tîm HART, i’r awyren a daethpwyd â’r tân dan reolaeth wrth ddefnyddio tair prif chwistrell yn ogystal ag offer torri a chodi.
Roedd y dynwarediad yn amlygu un farwolaeth ymysg criw’r awyren gyda’r pum claf oedd yn weddill yn cael eu hachub yn llwyddiannus, gan gynnwys un oedd ag anaf bawlwanu, a chawsant eu trin ar y safle mewn cydweithrediad â phrotocolau’r timau WAST a HART.
Rheolwyd cydlyniad y digwyddiad o’r Ganolfan Rheol Aml-asiantaeth (MACC), lle’r oedd penaethiaid arian ac arsyllwyr o’r holl asiantaethau partner yn gweithio gyda’i gilydd i rannu gwybodaeth amser real a sicrhau ymateb cyfunol.
Ieuan Dobbs, Station Commander for SWFRS, said:
Dywedodd Ieuan Dobbs, Pennaeth Gorsaf GTADC:
“Mae ymarferiadau fel hyn yn hanfodol i sicrhau bydd pob asiantaeth yn barod i ymateb gyda’i gilydd mewn achos argyfwng gwirioneddol. Arddangosodd ymarferiad heddiw cydlyniad, sgil technegol ac agwedd broffesiynol gan bawb a oedd ynghlwm, wrth hefyd amlygu meysydd ar gyfer gwella.”
Mae’r ymarferiad hyfforddi ar y cyd hwn yn adlewyrchu ymroddiad parhaus gwasanaethau brys a sefydliadau partner ar draws De Cymru i gynnal galluogrwydd a dyrchafu diogelwch y cyhoedd.