Tân Gwyllt yng Nghlydach Dingle, ger Brynmawr – 28 Awst 2025

Mae timau aml-asiantaeth yn gweithio’n ddiflino i reoli’r tân gwyllt parhaus yng Nghlydach Dingle, ger Brynmawr. Dan arweiniad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyda chefnogaeth cydweithwyr yn yr heddlu, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, asiantaethau iechyd, a phartneriaid seilwaith. Mae’r ymateb ar y cyd yn canolbwyntio ar amddiffyn cymunedau, diogelu seilweithiau hanfodol, a lleihau’r effaith amgylcheddol.

Ar hyn o bryd, mae’r tân yn ymestyn dros tua 150 hectar gyda ffrynt tân 1 cilomedr o hyd. Mae criwiau’n gweithio’n ddi-baid, gan ddefnyddio offer arbenigol ac yn elwa o fynediad da at gyflenwadau dŵr i gefnogi’r ymdrechion i ddiffodd y tân

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw risg uniongyrchol i fywyd nac eiddo, ac mae camau rhagweithiol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch y cyhoedd. Cynghorir trigolion i gadw drysau a ffenestri ar gau pan fydd mwg, neu arogl mwg, yn bresennol, a’u hagor eto pan fydd y mwg neu’r arogl wedi mynd heibio. Dylai unrhywun sy’n pryderu am eu hiechyd geisio cyngor meddygol.

Mae’r holl bartneriaid yn rhannu’r newyddion diweddaraf yn gyson gydag awdurdodau lleol a phartneriaid iechyd i roi gwybod i gymunedau.

Mae hwn yn ddigwyddiad dwys a heriol, ac mae’r holl asiantaethau dan sylw wedi ymrwymo i ymdrech gydlynol ar y cyd i’w reoli. Rydym yn ddiolchgar i’r cyhoedd am eu cydweithrediad a dealltwriaeth barhaus y cyhoedd.

Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau wrth i’r sefyllfa ddatblygu. Gwneir pob ymdrech i reoli’r risgiau ac amddiffyn ein cymunedau.