Penodi Dirprwy Brif Swyddog Tân Newydd
Rydym yn falch o rannu newyddion am benodiad Adam Openshaw yn Ddirprwy Brif Swyddog Tân newydd yn dilyn proses recriwtio drylwyr a chystadleuol.
Mae Adam yn dod â chyfoeth o brofiad ac arweinyddiaeth i’r rôl, gan ymuno â’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn 2005. Ar hyn o bryd, fe yw Prif Swyddog Tân Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Gwella gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaerloyw, lle mae wedi arwain ymdrechion trawsnewid sylweddol. O dan ei arweinyddiaeth, cyflawnodd y Gwasanaeth sgôr well a chafodd ei dynnu o’r categori monitor uwch gan HMICFRS yn dilyn eu hailasesiad ddechrau 2025.
Roedd y panel cyfweld yn cynnwys y Prif Swyddog Tân Fin Monahan, Phil Garrigan, Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân, y Comisiynydd Kirsty Williams, a’r Comisiynydd Carl Foulkes, Cadeirydd y panel. Adam oedd yr ymgeisydd a gafodd y sgôr uchaf gyda’r panel cyfweld staff a’r panel cyfweld ffurfiol, gan greu argraff o ran ei weledigaeth, ei arweinyddiaeth a’i ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus.
Dywedodd Carl Foulkes, Comisiynydd y Gwasanaeth, a Chadeirydd y Panel Cyfweld, “Yn ystod ei yrfa mae Adam wedi gweithio mewn nifer o rolau gweithredol a strategol amrywiol, gan gynnwys Rheolwr Criw, Rheolwr Gwylfa, Swyddog Cymorth Strategol, Rheolwr Risg Lleol i Cheltenham, Rheolwr Grŵp Dysgu a Datblygu, a Rheolwr Ardal Ymateb a Chydnerthedd. Roedd ei brofiad eang a’i ymrwymiad i wella gwasanaethau yn amlwg drwy gydol y broses ddethol.
“Bydd Adam yn symud i fyw i’r ardal a disgwylir iddo ymuno â’r Gwasanaeth ar ôl cwblhau ei gyfnod rhybudd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaerloyw.
“Edrychwn ymlaen at groesawu Adam a gweithio gyda’n gilydd i barhau i ddarparu gwasanaethau tân ac achub rhagorol i’n cymunedau.”
Diwedd