Mae Gorsaf Dân Aberbargod, Bargoed wedi’i choroni’n bencampwr y DU ym Mhencampwriaethau Ailgylchu Bagio a Bancio Elusen y Diffoddwyr Tân eleni, gan arwain ymdrech ledled y DU i droi dillad diangen yn gymorth hanfodol i bersonél y gwasanaeth tân a’u teuluoedd. Diolch i ymgyrch anhygoel ar draws y gymuned, rhoddwyd…
Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i’r Adolygiad Diwylliant Annibynnol gael ei gyhoeddi gan Fenella Morris CB, ac mae hon wedi bod yn flwyddyn o newid i’r gwasanaeth. Ym mis Chwefror 2024, ymunodd pedwar Comisiynydd â’r gwasanaeth i oruchwylio llywodraethu uwch arweinwyr a gweithio gyda nhw i ddatblygu prosesau cadarn…
Blwyddyn wedi adolygiad CB Fenella Morris i’r diwylliant yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), rhyddhaodd y Gwasanaeth ei ddatganiad diwylliant diwygiedig, sydd wedi’i alinio â’i uchelgeisiau a’i ddyheadau ar gyfer y dyfodol. Gyda chymunedau De Cymru yn greiddiol iddo, mae’r datganiad diwylliant yn addewid y Gwasanaeth i ‘[greu]…
“Mae’n amser i edrych ymlaen a nawr i ddechrau bwrw ymlaen yn wirioneddol,” medd Prif Swyddog Tân Fin Monahan mewn sesiwn gweithdy gydag arweinwyr ledled y Gwasanaeth yr wythnos hon a ganolbwyntiodd ar ragoriaeth weithredol. “Dwi’n dwlu ar y swydd hon, yn enwedig i gael bod allan yn ymgysylltu â…
Rydym yn falch o gyhoeddi penodiad Dean Loader a Brian Thompson yn Brif Swyddogion Tân Cynorthwyol (PSTC) newydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC). Ymunodd Dean Loader â Brigâd Dân Gwent ym 1995, a ddaeth yn GTADC yn Dilyn ad-drefnu lleol ym 1996, ac mae wedi dal rolau amrywiol…
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn falch o gyhoeddi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) gyda Medserve Cymru. Nod y bartneriaeth newydd hon yw cryfhau’r cydweithio rhwng y ddau sefydliad i gefnogi’r gymuned trwy wella gwasanaethau ymateb brys. Mae Medserve Cymru, elusen yn ne Cymru sy’n gysylltiedig â…
Mae’r momentwm tuag at wneud newid cadarnhaol yn parhau i ddigwydd yn gyflym ac archwilio elfennau o ddiwylliant y sefydliad oedd y ffocws yn y sesiynau rheolwyr canol diweddaraf Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yr wythnos hon. Lansiodd y sesiwn yr adolygiad gwerthoedd a chanolbwyntiodd ar wreiddio’r cod moeseg…
Yn dilyn tân mawr ar Ddydd Sul y 10fed o Dachwedd yn Siop Elusen The Magic Cottage, Y Fenni, trefnwyd diwrnod aml-asiantaeth yng nghanol y dref gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Ar y cyd â Heddlu Gwent a Chyngor Sir Fynwy, pwrpas y diwrnod oedd cysuro ac ymgysylltu…
Ar Ddydd Mawrth y 3ydd o Ragfyr, ail-agorodd Gorsaf 09, Treorci, yn swyddogol yn dilyn prosiect adnewyddu estynedig a welwyd yr orsaf yn cael ei moderneiddio ar ôl dros 50 mlynedd o weithredu. Wedi’i hadeiladu ym 1973, bu gorsaf dân Treorci’n gonglfaen yr ymateb brys yng Nghwm Rhondda ers hir,…
Nos Iau 28ain Tachwedd, cydnabu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ymddygiad rhagorol cydweithwyr ac aelodau o’r gymuned yn y noson wobrwyo flynyddol a chyflwyno Gwasanaeth Hir. Cafodd y noson ei chyflwyno gan y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Dean Loader, gydag anerchiad croesawgar gan y Comisiynydd Vij Randeniya, gwahoddwyd cydweithwyr…