Llunio dyfodol arweinwyr tân ac achub yng Nghymru

Yr wythnos hon oedd daeth ein Rhaglen Arloesi, cwrs chwe mis o hyd i ben. Mae’r cwrs yn darparu dysgu, myfyrio a datblygu meysydd a themâu allweddol ar gyfer arweinyddiaeth effeithiol. Mae Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru yn mynd trwy gyfnod o drawsnewid sylweddol, gyda newidiadau diwylliannol a gofynion cynyddol yn golygu bod angen sgiliau a ffyrdd newydd o feddwl ar arweinwyr.

 

Mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd a De Cymru, bwredir y Rhaglen Arloesi ar gyfer arweinwyr strategol cyfredol ac arweinwyr uchelgeisiol. Yn dilyn y rhaglen, bydd cynrychiolwyr llwyddiannus yn derbyn  cymhwyster Lefel 7 Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM7).

Cymerodd cyfanswm o ddeuddeg cynrychiolydd ran yn rhaglen eleni gan gynnwys naw o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a thri o Wasanaeth Tân ac Achub y Gogledd -.

Cynhaliwyd y rhaglen Arloesi gyntaf yn 2018. Mynychodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Dean Loader, y cwrs a rhannodd ei brofiad:

“Mynychais y Rhaglen Arloesi gyntaf oll yng Nghymru, wedi fy ysgogi gan fy uchelgais i ddod yn arweinydd strategol yn y dyfodol o fewn GTADC. Roedd cynnwys y rhaglen yn ategu fy nealltwriaeth o feysydd arweinyddiaeth allweddol gan anog dysgu a chwilfrydedd parhaus.

Un o’r prif fuddion oedd y dysgu a rennir o fewn y garfan, ac mae ennill gwahanol safbwyntiau wedi bod yn amhrisiadwy i’m taith arweinyddiaeth. Ffurfiwyd rhwydwaith cryf sy’n parhau i gynnig cefnogaeth ac arweiniad heddiw.

Rwy’n cymeradwyo’r rhaglen yn llwyr ac roedd yn anrhydedd gen i siarad am fy mhrofiadau gyda’r garfan gyfredol.”

Mae’r rhaglen yn cynnwys pedwar modiwl, sy’n dechrau ym mis Ionawr 2025, ac yn dod i ben ym mis Mehefin 2025, gan gwmpasu meysydd megis:

  • Ymwybyddiaeth strategol
  • Hydwythdedd, newid a diwylliant
  • Sgyrsiau Hanfodol
  • Meddwl yn feirniadol a dysgu sut i addysgu

Er mwyn paratoi’r cynrychiolwyr ar gyfer y cam nesaf, roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar feithrin hyder, datblygu sgiliau arweinyddiaeth, a dyfnhau dealltwriaeth o ofynion ymarferol eu rolau.

Yn ystod y rhaglen, gwahoddwyd siaradwyr gwadd i wahanol fodiwlau i rannu eu mewnwelediadau a’u profiadau, gan wella gwybodaeth y cyfranogwyr yn eu meysydd arbenigol, gan gynnwys:

  • Y Comisiynydd Kirsty Williams
  • Keith Grint
  • Steve Pomeroy, Llywodraeth Cymru
  • Zulfia Abawe, Prifysgol De Cymru

Dywedodd Steve O’Connell, Rheolwr Ardal, a chynrychiolydd ar y Rhaglen Arloesi:

“Mae’r Rhaglen Arloesi wedi bod yn gyfle gwych i barhau i ddatblygu fy sgiliau arweinyddiaeth wrth ennill gwell dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen i arwain newid a chael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant a pherfformiad. Mae cael  gweithio ochr yn ochr â phobl o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a dysgu o’u profiadau hefyd wedi bod yn werthfawr hefyd.”

 Ychwanegodd Hannah Goodchild, Rheolwr Gwasanaethau Pobl:

“Roedd y Rhaglen Arloesi yn llwyfan gwych i ddysgu a rhwydweithio gyda chydweithwyr yn gyffredinol o fewn  y Gwasanaeth Tân ac Achub. Rydym wedi dysgu theori ddiddiwedd a sgiliau ymarferol, a chael profiadau sylweddol o fywyd gwirioneddol  i’w defnyddio a myfyrio arnynt i’n helpu i fod yn arweinwyr strategol.”

Derbyniodd y cynrychiolwyr dystysgrif a chofrodd goffaol i gydnabod cwblhau’r modiwlau wyneb yn wyneb a ddysgwyd. Er mwyn cyflawni eu dyfarniad Lefel 7 ILM, mae’n ofynnol i gynrychiolwyr gwblhau’r asesiadau sy’n weddill ar-lein .

Dymunwn bob lwc i bawb ar y cwrs wrth gwblhau eu hasesiadau ar-lein.”