Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n Derbyn Gwobr Aur Arobryn YWA am Gymorth Eithriadol i’r Lluoedd Arfog

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n Derbyn Gwobr Aur Arobryn YWA am Gymorth Eithriadol i’r Lluoedd Arfog

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn falch o gyhoeddi ei fod wedi’i urddo â Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Gweithwyr (CCG) Y Weinyddiaeth Amddiffyn (YWA) – bathodyn er anrhydedd ar gyfer sefydliadau sy’n darparu cymorth eithriadol i gymuned y Lluoedd Arfog.

Mae’r anrhydedd nodedig hwn yn adlewyrchu ymroddiad dwfn a pharhaus GTADC tuag at gyn-filwyr, y lluoedd wrth gefn a’r teulu Lluoedd Arfog ehangach. I gyflawni’r Wobr Aur, rhaid i sefydliadau nid yn unig gyflogi a chefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog ond hefyd eirioli ar eu rhan yn weithredol, boed o fewn y gweithle a thu hwnt.

Yn adeiladu ar wobr Arian y llynedd, cyflawnodd GTADC amrediad o fesurau i gryfhau’r gefnogaeth yma, gan gynnwys:

  • Dyrchafu polisïau gwyliau arbennig i ddarparu gwyliau â thâl ychwanegol i Filwyr Wrth Gefn sy’n ymgymryd ag ymrwymiadau hyfforddi;
  • Ymgysylltiadau parhaus â Chyfamod y Lluoedd Arfog, gan ailddatgan ein llw i sicrhau bydd y rhai hynny sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn cael eu trin â thegwch a pharch;
  • Cyfranogaeth mewn prif ymarferion hyfforddi milwrol ar draws De Cymru, gan arddangos cydweithio a chyd-gefnogaeth gweithredol;
  • Aelodaeth weithredol o’r Rhwydwaith Lluoedd Arfog Cenedlaethol, wrth fynychu’r cyfarfod cenedlaethol diweddaraf yn Swydd Efrog;
  • Cefnogi Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymreig, gan gynnwys ein hymrwymiad â’r digwyddiad diweddar yng Nghastell Cil-y-Coed;
  • Mentrau codi arian a arweiniwyd gan gyn-filwyr, yn codi arian at achosion da sy’n ymwneud â’r Lluoedd Arfog.

Meddai Rheolwr Gorsaf John Bolton:

“Ry’n ni’n eithriadol falch i dderbyn y wobr hon. Mae Cyn-filwyr a Milwyr Wrth Gefn yn dod â chyfoeth o brofiad, disgyblaeth ac arweinyddiaeth i GTADC, ac rydym yn ymroddedig i greu amgylchedd lle gallent ffynnu.

“Mae’r Wobr Aur yn cydnabod nid yn unig y gwaith rydym wedi’i wneud hyd yn hyn, ond hefyd ein haddewid parhaus i fod yn gyflogwr croesawgar a chefnogol i aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog.”

“Mae’r cyflawniad hwn yn destament i waith caled ein staff ac ymroddiad Rhwydwaith Lluoedd Arfog GTADC sydd wedi chwarae rôl ganolog wrth faethu diwylliant cynhwysol a chefnogol.”

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n parhau’n gadarn yn ei ymroddiad i’r gymuned Lluoedd Arfog a bydd yn parhau i ddatblygu ffyrdd arloesol i anrhydeddu a chefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu.