Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn Datgelu Gweledigaeth, Cenhadaeth, Gwerthoedd a Strategaeth Newydd

Yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), rydym yn falch iawn o’n gwaith yn gwasanaethu ac amddiffyn cymunedau De Cymru. Mae dros 1.6 miliwn o bobl yn dibynnu arnom, ac rydym felly’n deall pwysau’r cyfrifoldeb hwn – ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau na fyddwn byth yn eu siomi. Mae ein strategaeth newydd yn gosod llwybr clir ar gyfer dyfodol ein Gwasanaeth, gan ein cyfarwyddo wrth i ni gyflawni ein gweledigaeth, a sicrhau ein bod yn parhau i fod yn addas ar gyfer heddiw a’r blynyddoedd a ddaw.

Ein Strategaeth: Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol

Mae’r strategaeth hon yn adlewyrchu ein blaenoriaethau craidd gan grynhoi argymhellion allweddol  adolygiadau ac adroddiadau diweddar, gan gynnwys Adolygiad Fenella Morris a’r arolygiad diweddarach a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS). Mae hi’n cyd-fynd â’n dull cynhwysfawr o atal, amddiffyn ac ymateb, sy’n cynnwys dros 60 o ffrydiau gwaith, gydag amserlen eglur ar gyfer cyflawni pob un.

Mae’r strategaeth yn amlinellu cyfeiriad datblygiad parhaus GTADC, gan ganolbwyntio ar y nodau a’r dyheadau a fydd yn ein helpu i esblygu, arloesi ac aros ar flaen y gad mewn perthynas â’r heriau a wynebwn. Ein cenhadaeth yw amddiffyn De Cymru heddiw, gan baratoi’n weithredol ar gyfer heriau yfory.

Am fwy o fanylion, cewch fynediad at y strategaeth lawn yma a’n datganiad diwylliant yma.

Ein Gweledigaeth:

“Gweithio gyda’n gilydd fel un tîm i fod yn Wasanaeth Tân ac Achub rhagorol, yn amddiffyn De Cymru heddiw, ac arloesi’n uchelgeisiol ar gyfer yfory.”

Ein Cenhadaeth:

“Gwasanaethu ein cymunedau drwy leihau risg ac ymateb i argyfyngau.”

Ein Gwerthoedd:

Trwy ymgynghori’n helaeth â’n staff, rydym wedi sefydlu set o werthoedd sy’n ein tywys wrth wasanaethu ac amddiffyn cymunedau De Cymru. Mae’r gwerthoedd hyn yn sylfaen i bopeth a wnawn:

  • Tosturi: Rydym yn gweithredu gyda gofal a dealltwriaeth ym mhob sefyllfa.
  • Dewrder: Rydym yn wynebu heriau gyda dewrder moesol a chorfforol.
  • Parch: Rydym yn trin ein gilydd, ein partneriaid, a’r cyhoedd gydag urddas.
  • Uniondeb: Rydym yn gweithredu’n onest ac yn foesegol ym mhob amgylchiad.
  • Rhagoriaeth: Rydym yn ymdrechu i gyrraedd y safonau uchaf ym mhopeth a wnawn.

Mae’r gwerthoedd hyn wedi cael eu crynhoi yn ein harwyddair: “Dewrder i weithredu, tosturi i ofalu.”

Gweithio Gyda’n Gilydd i Gyflawni Ein Cenhadaeth

Mae’r heriau a wynebwn heddiw – a’r rhai y byddwn yn eu hwynebu yfory – yn gofyn i ni weithio fel tîm unedig. Mae ein strategaeth newydd yn rhoi ein pobl wrth wraidd yr hyn a wnawn, gan gydnabod bod eu lles a’u grymuso yn hanfodol i’n llwyddiant. Drwy feithrin diwylliant sy’n cynnwys cydweithio, ein nod yw llunio dyfodol mwy disglair ar gyfer Gasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’r cymunedau a wasanaethwn.

Ein Nodau Strategol

Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth a’n cenhadaeth, byddwn yn dilyn y nodau strategol canlynol, gyda chynlluniau gweithredu manwl, amserlenni ac adnoddau i gynnal pob un:

  • Llywodraethu a Gweithdrefnau Eglur: Cryfhau ein polisïau a’n fframweithiau llywodraethu i gefnogi gwneud penderfyniadau effeithiol ac atebolrwydd.
  • Trawsnewid Digidol: Harneisio’r datblygiadau diweddaraf mewn technoleg ddigidol i greu Gwasanaeth modern, fforddiadwy, sy’n barod ar gyfer y dyfodol.
  • Rhagoriaeth Weithredol: Gwella ein galluoedd mewn atal, amddiffyn ac ymateb, gan sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau’n ddiogel, yn effeithiol ac yn gadarnhaol.
  • Gwaith Tîm Unedig: Meithrin diwylliant cydweithredol, cynhwysol lle mae pob unigolyn yn teimlo’n werthfawr ac yn rhan o’r tîm.
  • Dull sy’n Canolbwyntio ar Bobl: Rhoi lles, datblygiad a chefnogaeth ein pobl wrth wraidd ein darpariaeth gwasanaeth.
  • Arweinyddiaeth Rymus: Datblygu cenhedlaeth newydd o arweinwyr grymus, yn anhunanol, sy’n ymrwymedig i yrru rhagoriaeth.
  • Dysgu Parhaus: Esblygu fel sefydliad sy’n dysgu, gan wthio ein hunain yn gyson i ddatblygu a gwella.
  • Diwylliant Cyfiawn: Adeiladu diwylliant a seilir ar ein gwerthoedd craidd, gan hyrwyddo timau cefnogol, atebol sy’n perfformio’n dda.
  • Cyfathrebu Gwell: Gwella sut rydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â’n staff, ein partneriaid a’r gymuned ehangach.
  • Cynaliadwyedd: Cymryd camau rhagweithiol i leihau ein heffaith amgylcheddol a chefnogi dyfodol cynaliadwy i Dde Cymru

Creu Diwylliant Cynhwysol a Diogel

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle lle gall pawb fod eu hunain yn hollol ddilys yn y gweithle, gan wybod y byddant yn cael eu cefnogi a’u parchu. Nid oes lle i fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn ein Gwasanaeth. Rydym yn gweithio’n weithredol i greu amgylchedd lle mae pob unigolyn yn teimlo’n werthfawr, yn ddiogel, ac wedi’i rymuso i wneud eu gorau yn y gwaith.

Wrth i ni barhau i weithredu argymhellion Adolygiad Fenella Morris, byddwn yn parhau i gryfhau ein diwylliant, gan sicrhau bod ein holl bobl yn teimlo’n barchus, yn ddiogel, ac yn falch o fod yn rhan o dîm GTADC.