Grymuso Menywod yn y Gwasanaeth Tân ac Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn Ymuno â Digwyddiad a Dathliad Cenedlaethol
Grymuso Menywod yn y Gwasanaeth Tân: Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn Ymuno â Digwyddiad a Dathliad Cenedlaethol
Dros y penwythnos hwn, ymunodd naw cynrychiolydd o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) â chynrychiolwyr o bob cwr o’r DU yn Nigwyddiad Hyfforddi a Datblygu Cenedlaethol Menywod yn y Gwasanaeth Tân (MGT) 2025, sef ddathliad unigryw o ddysgu, grymuso a chymuned.
Cynhelir y digwyddiad ar gyfer MGT yn flynyddol, a daeth â menywod o bob rhan o’r gwasanaeth tân ac achub ynghyd –gan gynnwys staff gweithredol, corfforaethol a chymorth. Dros dri diwrnod llawn gweithgarwch, roedd y rhaglen yn cynnwys gweithdai ymarferol, sesiynau arweinyddiaeth a gweithgareddau’n canolbwyntio ar lesiant er mwyn herio, bywiogi ac ysbrydoli.
Mynychodd Beci Newton, rheolwr yr orsaf, am y tro cyntaf, “Er fy mod i’n ddiffoddwr tân ers 18 mlynedd, dyma’r penwythnos Menywod yn y Gwasanaeth Tân cyntaf i fi dreulio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru. Dw i yma fel hyfforddwr yn hytrach na chynrychiolydd ac mae’n anrhydedd cael addysgu am adeiladau uchel mewn sefydliad mor fawreddog. Mae’r digwyddiad hwn yn ymwneud â grymuso ein gilydd, rhannu gwybodaeth a dangos bod sawl agwedd ar arweinyddiaeth; ac mae pob un ohonynt yn rhan o’r gwasanaeth tân ac achub.”
Cymerodd cynrychiolwyr o Dde Cymru ran mewn ystod eang o sesiynau, gan gynnwys:
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys eiliadau tawelach ar gyfer myfyrio a hunanofal. Mwynhaodd y mynychwyr sesiynau Ioga Anadlu a Nidra fore Sul, cyfarfod â Chŵn annwyl Lles K9, a chymryd rhan mewn gweithdai yn archwilio datblygiad proffesiynol, iechyd meddwl, a dylunio cynhwysol — gan gynnwys edrych ar OAP a gynlluniwyd ar gyfer menywod a realiti Diffodd Tân Awyrennau ym Maes Awyr Heathrow.
Trafodwyd pynciau difrifol gyda gofal a gonestrwydd, gan gynnwys sut i gefnogi staff sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig yn well, a sut gall deddfwriaeth a diwylliant gwaith greu mannau mwy diogel i bawb.
Mynychwyd y digwyddiad gan Clare Amore, sy’n Rheolwr Criw gyda Gorsaf Dyffryn. Fel cynrychiolydd rhanbarthol GTADC Menywod yn y Gwasanaeth Tân yn y DU, rhannodd Clare ei barn am bwysigrwydd y digwyddiad:
“Cynhelir y digwyddiad MGT DU eleni am y trydydd tro ar hugain eleni, gyda chynrychiolwyr o bob un o’r 52 gwasanaeth, ynghyd â chynrychiolwyr o Dde Iwerddon, Jersey a Ghana yn ei fynychu.
“Y rheswm dros gynnal y digwyddiad hwn yw grymuso a chefnongi menywodo fewn ein Gwasanaethau Tân ledled y DU. Mae e’n galluogi cynrychiolwyr gweithredol a chorfforaethol i gymryd rhan mewn senarios a gweithdai tân ac achub realistig a fydd yn eu helpu i gyrraedd eu potensial llawn. Bydd hyn wedyn yn ysbrydoli menywod hyderus a llwyddiannus i ddychwelyd i’w Gwasanaeth a helpu i adeiladu gwasanaeth tân mwy blaengar.
Roedd GTADC eisiau cynnig yr un cyfleoedd i’w holl staff, felly, y llynedd, cynhaliwyd digwyddiad cyntaf MGT Cymru ar gyfer Cymru Gyfan i’r “Holl Weithwyr” ym Mhorth Caerdydd ac mae ein digwyddiad arfaethedig ar gyfer 2025 ym mis Hydref eisoes yn hanner llawn.”
Cadarnhaodd y penwythnos ymrwymiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i adeiladu gweithlu mwy cynhwysol, cynrychioliadol a chefnogol — a buddsoddi yn nhwf a datblygiad yr holl staff, gan gynnwys pobl ym mhob swydd o unrhyw gefndir.