Fel rhan o ymrwymiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gyflawni’r argymhellion o Adroddiad Morris, mae menter newydd “Gofalu am Ymddygiadau” wedi’i lansio ar draws y gwasanaeth.

Mae’r fenter yn cael ei rhoi ar waith ar gyfer holl staff y gwasanaeth ac mae’n cynnwys hyfforddiant, gweithdai, fideos gwybodaeth ac ymgyrch bosteri.

Mae “Gofalu am Ymddygiadau” yn arwydd o ymrwymiad y Gwasanaeth i ddelio ag ymddygiad amhriodol ac i sicrhau bod yr holl weithwyr a staff yn teimlo’n ddiogel, yn gyfforddus, yn hapus, ac yn cael eu cefnogi yn y gweithle. Mae’n cynrychioli cam hollbwysig tuag at feithrin gweithle mwy diogel, mwy parchus wrth roi’r offer a’r sgiliau i unigolion ffynnu yn yr amgylchedd hwn.

Am fwy o wybodaeth, ewch yma.