Gelli di fod yn arwr sydd â chlustffonau?

Gelli di fod yn arwr sydd â chlustffonau? Mae’r Gwasanaethau Tân Cymreig yn recriwtio Gweithredwyr 999 i’w Hystafell Reoli.

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru’n recriwtio Gweithredwyr Rheoli 999 o fewn eu Hadran Cyd-reoli Tân a leolwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fel Gweithredydd Rheoli Tân, mae pob diwrnod yn wahanol. Does dim swydd arall sy’n debyg. Gall fod yn anrhagweladwy, yn gyffrous a gwobrwyol. Hefyd, cewch y boddhad a’r parch a ddaw wrth ddarparu gwasanaeth hanfodol drwy ddiogelu cymunedau De a Chanolbarth a Gorllewin Cymru.

Gweithredwyr Rheoli Tân yw’r cyswllt rhwng y cyhoedd â diffoddwyr tân gweithredol. Arwyr â chlustffonau ydynt sy’n ateb argyfyngau 24/7, gan ddarparu cyngor sy’n arbed bywyd law yn llaw â helpu diffoddwyr tân i gyrraedd digwyddiadau cyn gynted â phosib.

Mae’r tîm yn Cyd-reoli Tân yn chwarae rhan weithredol wrth ddatrys argyfyngau o fewn ein cymunedau wrth ddefnyddio technegau delio â galwadau arbenigol. Ar gyfartaledd, mae Cyd-reoli Tân yn derbyn tua 76,400 o alwadau bob blwyddyn – tua 200 galwad i bob shifft!

Bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr hynod effeithiol sy’n peidio â chynhyrfu a chanolbwyntio mewn sefyllfaoedd sy’n hynod heriol yn emosiynol, ac yn meddu ar allu i wneud penderfyniadau ar sail asesiad risg.

Nid dim ond ateb galwadau brys a chyrchu peiriannau tân bydd staff Rheoli Tân yn gwneud – maen nhw’n chwarae rôl hanfodol wrth ddod â digwyddiadau i ben yn llwyddiannus. Rhaid i staff Rheoli Tân fod yn barod i roi cyngor sy’n achub bywyd i alwyr, cyfathrebu gwybodaeth a negeseuon hanfodol, ymateb i geisiadau gan y Swyddog sy’n Gofalu am ddigwyddiad, cysylltu â gwasanaethau brys a sefydliadau eraill a thracio argaeledd adnoddau brys.

Darperir hyfforddiant llawn ac mae gan staff ddigon o gyfle i ddatblygu lle bydd pob aelod staff newydd yn gweithio tuag at wobr a sicrhawyd ar gyfer ansawdd gan Sgiliau Er Cyfiawnder o fewn dwy flynedd a hanner o gael eu cyflogi. Yn ogystal, mae ystod ardderchog o fuddion ar gael i staff.

Mae systemau cyfrifiadurol wrth galon popeth o fewn Cyd-reoli Tân, yn cefnogi gwaith tîm ar draws pob partner gwasanaeth brys.  Yn ogystal â chael hyfforddiant ym mhob maes sgiliau cyfathrebu a thechnegol sydd angen i gyflawni’r swydd, byddwch hefyd yn derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf ac iechyd a diogelwch.

“Dwi’n ffynu yng nghanol fy mhrysurdeb, gyda thanau glaswellt, llifogydd neu’r cyfnod sy’n arwain at Noson Tân Gwyllt.”

“Mae pob dydd yn wahanol. Dych chi ddim yn gwybod beth sy’n dod a gall hwnnw fod yn eithaf cyffrous.”

“Mae’n le ardderchog i weithio ynddo – mae llwyth o gyfleoedd a phatrymau shifft hyblyg.”

“Gallaf ddweud yn wir fy mod i’n dwlu ar fy swydd ac rwyf wedi gwneud ers y diwrnod y cychwynnais.”

Ydych chi’n ymroddgar, yn drugarog, yn benderfynol, yn ddibynadwy ac mae gennych sgiliau cyfathrebu effeithiol? Os felly, gall Cyd-reoli Tân fod yn gyfle i chi. Maen nhw’n recriwtio nawr tan 5yp ar yr 22ain o Fawrth 2021.

Mae Cyd-reoli Tân yn annog ymgeiswyr yn rhagweithiol o bob cefndir i gynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Gwyliwch fwy o wybodaeth ynghylch y rôl ar wefan Cyd-reoli Tân.