Yn dilyn mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i amddiffyn rhag ymlediad COVID-19, bu’n rhaid i ni fel Gwasanaeth wneud newidiadau i’n ffordd o weithio.

Rydym yn parhau i ddarparu’r gwasanaethau sy’n hanfodol i fywyd ar gyfer ein cymunedau. Mewn rhai o’n rhaglenni gweithgarwch nad ydynt yn rhai brys rydym wedi adolygu ac addasu prosesau atal ac amddiffyn yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Mae hyn wedi bod yn destun asesiad risg er mwyn sicrhau y gallwn gadw aelodau’r cyhoedd a’n staff yn ddiogel. Mae hwn yn gyfnod anodd a heriol i bawb ac rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar barhau i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon ar gyfer ymateb i argyfwng ar draws ein cymunedau yn Ne Cymru.

Er bod ein hamgylchiadau yn newid, ni fyddwn yn newid ein hymrwymiad i ddiogelu ein staff a’r rhai yr ydym yn falch o’u gwasanaethu.

Diolch am eich cefnogaeth.