Llongyfarchiadau i’n recriwtiaid Ar Alwad diweddaraf, a gwblhaodd eu cwrs pythefnos yn llwyddiannus yn ein Canolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd yn gynharach heddiw.

Dywedodd Rheolwr Grŵp Mark Kift:

“Llongyfarchiadau i’r recriwtiaid ar alwad yn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru! Mae eich ymrwymiad i wasanaethu’r gymuned a’ch ymroddiad i ymateb brys yn wirioneddol glodwiw. Gan ddymuno’r gorau i chi wrth i chi gychwyn ar y daith hollbwysig hon o ddiogelu bywydau ac eiddo. Daliwch ati gyda’r gwaith ardderchog!”

Allech chi helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol?

Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân ar Alwad yn nifer o Orsafoedd Tân ac Achub ar draws De Cymru.

Darganfyddwch mwy o wybodaeth am y rôl ar ein tudalen Diffoddwyr Tân ar Alwad.

Gallwch hefyd ddod draw i Noson Dril a siarad â chriwiau am y rôl a’r broses recriwtio.

Ddim yn sicr lle mae eich orsaf lleol? Defnyddiwch y map ar ein Tudalen Cartref i ddod o hyd i’r orsafoedd.