Confoi i’r Wcráin yn Gadael y Pencadlys

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn rhoi chwe pheiriant tân arall i Wcráin

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch o roi chwe hen beiriant tân i Wcráin, i helpu i gefnogi cydweithwyr ymladd tân yn y wlad. Dyma’r wythfed confoi sy’n cynnwys rhoddion gan y Gwasanaeth i gefnogi ymdrechion rheng flaen yn Wcráin. Yn dilyn y confoi diweddaraf, mae cyfanswm o 20 o beiriannau a dros 4,000 o ddarnau o offer wedi cael eu dosbarthu i’r Wcráin. Bydd y grŵp o Dde Cymru yn ymuno â chonfoi mwy yn cynnwys 30 o gerbydau gan Wasanaethau ar draws y DU sy’n teithio i Wcráin.

Dywedodd Darren Cleaves, Rheolwr Gweithrediadau, sy wedi gwirfoddoli i ymuno â’r confoi am y trydydd tro , “Rwy’n gobeithio y bydd peiriannau’n gwneud gwahaniaeth i ddiffoddwyr tân Wcráin ac yn eu cynorthwyo i frwydro yn erbyn y tanau parhaus a achosir gan wrthdaro. Mae’r profiad hwn yn gwneud i bawb dan sylw deimlo’n ostyngedig iawn, ac ni fyddai’n bosibl heb gefnogaeth Gwasanaeth Tân De Cymru, Fire Aid, a Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU (ChAT).

Mae cyfanswm o dri gyrrwr i bob peiriant tân, sef 18 gyrrwr ar gyfer y chwe pheiriant tân, i sicrhau bod pob un o’r gwirfoddolwyr yn cael gorffwys digonol.

“Dywedodd Barry Tolman, Rheolwr Gorsaf, Diogelwch Tân Busnes, “Mae cymryd rhan yn y confoi hwn yn uchafbwynt gyrfa i mi. Gan y bydda i’n ymddeol ymhen pedair wythnos, ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth, dyma un o fy nghyfraniadau olaf i helpu. Ymunais â’r gwasanaeth i helpu pobl, a gobeithio gorffen fy amser yma yn gwneud hynny.”

Anerchwyd y confoi gan  y Prif Swyddog Tân Fin Monahan, a Mick Antoniw, Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli Pontypridd. Dywedodd Mick Antoniw:

“Rwy’n meddwl ei fod yn wych, bod chwe pheiriant sy’n mynd o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a bod 30 o’r DU gyfan. Mae’r rhain yn gerbydau sydd eu hangen yn fawr yn Wcráin ar hyn o bryd, a byddant yn cael eu defnyddio ar y rheng flaen i achub bywydau.”

“Rwy’n deall bod y peiriannau hefyd yn cario llawer o offer hanfodol i ymatebwyr cyntaf Wcráin, sy’n colli eu bywydau’n aml wrth geisio gwrthsefyll effeithiau’r ymosodiadau drôn a thaflegrau. Rwy’n perthyn i ail genhedlaeth o Wcreiniad, ac mae teulu gyda fi sy’n gwasanaethu yn Wcráin, mae hyn yn golygu llawer i fi yn bersonol.”

O fis Ebrill 2025, o ganlyniad i’r rhyfel yn Wcráin mae 100 o ddiffoddwyr tân wedi colli eu bywydau, 431 wedi cael eu hanafu a dinistriwyd 411 o orsafoedd tân a 1,700 o gerbydau tân. Mae’r ffigurau hyn yn dangos cynnydd sydyn o’u cymharu ag adroddiadau cynharach gan amlygu’r angen dybryd am gefnogaeth barhaus.

Bydd y confoi yn teithio o’r DU i Wlad Pwyl, lle bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gwlad Pwyl yn danfon yr adnoddau hanfodol hyn i ffin Wcráin.