Cefnogi’r Cyhoedd ar ôl digwyddiadau Trawmatig
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn Cynnig Gwybodaeth i Gefnogi’r Cyhoedd ar ôl Digwyddiadau Trawmatig.
Thema wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl eleni (12fed – 18fed Mai) yw ‘cymuned’. Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi lansio taflen arweiniad i gyfeirio aelodau’r cyhoedd at gymorth a chyngor er mwyn helpu ein cymunedau yn dilyn digwyddiadau trawmatig.
Datblygwyd y daflen ar y cyd ag adran AD y gwasanaeth ac aelod o staff gweithredol a fynychodd ddigwyddiad pan nad oedd ar ddyletswydd. Cafodd Rheolwr Grŵp Kevin Yates ei atgoffa pa mor drawmatig y gall y digwyddiadau hyn fod i aelodau’r cyhoedd, ac wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd: “Ychydig o wythnosau yn ôl pan nad oeddwn i yn y gwaith, des i ar draws gwrthdrawiad traffig ar y ffordd (GTFf) yn cynnwys beiciwr modur. Teimlais yn fregus iawn heb y sicrwydd sy gyda fi fel rheol yn fy sefyllfa gwaith arferol o wybod bod peiriant GTADC gerllaw.”
“Fe wnes i gynorthwyo gyda gofal trawma nes i help gyrraedd. Dyna un o’r Gwrthdrawiadau ar y Ffordd gwaethaf a welais i ers sawl blwyddyn. Yn anffodus, bu farw’r anafedig yn y fan a’r lle. Heb os nac oni bai, mae hyn wedi cael effaith barhaol arnaf fi, yn ogystal â’r aelodau o’r cyhoedd a’m cynorthwyodd y diwrnod hwnnw. Ar ôl mynd i’r afael â’r digwyddiad a rhoi fy manylion i’r heddlu chafwyd dim sôn am gefnogaeth nac unrhyw chyfeirio ato chwaith.”
Cafodd GM Yates ei ysbrydoli i weithio gyda sawl unigolyn allweddol yn y gwasanaeth i gynhyrchu taflen o’r enw “Gwybodaeth yn dilyn taflen digwyddiad trawmatig”. Bydd y daflen ar gael ar gerbydau gwasanaeth tân i’w dosbarthu i aelodau’r cyhoedd yn sgil profi digwyddiad trawmatig yn anffodus. Y gobaith yw helpu i gyfeirio pobl at gymorth gan sefydliadau arbenigol allanol, megis Mind a’r Samariaid, os a phryd bynnag y bydd eu hangen. Yn bwysig iawn hefyd, mae’r daflen yn amlygu’r ffaith y gall yr effaith negyddol a deimlir ar ôl digwyddiadau gymryd oriau, dyddiau, neu hyd yn oed wythnosau i ymddangos, a gallai gael effaith fwy hirdymor na’r disgwyl. Felly, mae sicrhau bod gan aelodau’r cyhoedd rywbeth i gyfeirio ato ar ôl iddynt adael digwyddiad yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod modd i’w cefnogi.
Gweithred fach yw hon, a gobeithiwn y caiff effaith fawr.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ddigwyddiad trawmatig ac mae angen cefnogaeth arnoch chi, gallwch ddod o hyd i adnoddau yma.