Arddangos Rhagoriaeth Weithredol yn Her Cymru a Rhanbarthol SADU 2025 

Cynhaliwyd her flynyddol Sefydliad Achub y DU (SADU) yng Nghanolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd Ddydd Sadwrn 26ain Ebrill. Yn Her Datglymu Cymru a Rhanbarthol 2025 bu timau o bob rhan o Gymru a’r DU, yn ogystal â thîm o Wlad Belg, yn cystadlu mewn heriau rhyddhau, trawma, a rhaffau. 

Her Ddatglymu 

Yn yr her ddatglymu, gweithiodd timau i achub anafusion o wrthdrawiadau traffig ffordd efelychol, gan hyrwyddo cyflenwi a datblygu technegau rhyddhau yn ddiogel, o fewn terfynau amser tynn. Daeth tîm Pen-y-bont ar Ogwr yn gyntaf yn y categori dros Gymru Gyfan, ac enillodd Avon y categori Timau Gwadd. 

Her Drawma 

Profodd yr her trawma pa mor dda oedd y timau’n ymdrin ag argyfyngau meddygol, gan gynnwys brysbennu a thriniaeth, mewn senarios cyflym. Enillodd Malpas gystadleuaeth Cymru Gyfan, gyda Gorllewin Canolbarth Lloegr yn dod i’r brig yng nghategori Timau Gwadd. 

Her adfywio cardiopwlmonaidd (CPR) 

Amlygodd yr her adfywio cardiopwlmonaidd pa mor bwysig yw meddwl yn gyflym mewn sefyllfaoedd a all achub bywydau. Sinead Melinn a Matthew Penny o Drelái, a Beth Barton a Damien Burnell o’r Bont-faen, oedd cyd-enillwyr cystadleuaeth Cymru Gyfan. Surrey ddaeth yn gyntaf o blith y Timau Gwadd. 

Her Achub â Rhaff 

Yn yr her achub â rhaff, perfformiodd timau achubiadau o uchder, a chawsant ddefnyddio eu sgiliau gorchymyn, technegol a meddygol gyda’i gilydd.  

De Cymru hawliodd y safle cyntaf, gyda Dyfnaint a Gwlad yr Haf yn dod yn ail, a Chanolbarth a Gorllewin Cymru yn drydydd. 

Roedd Her Rhyddhau Cymru a Rhanbarthol SADU 2025 yn llwyddiant ysgubol, gan ddathlu rhagoriaeth weithredol, gwaith tîm ac arbenigedd achub bywyd. 

Canlyniadau: 

  • Her Ddatglymu:
    Enillydd Cymru Gyfan: Pen-y-bont ar Ogwr
    Enillydd y Timau Gwadd: Avon 
  • Her Drawma:
    Enillydd Cymru Gyfan: Malpas
    Enillydd y Timau Gwadd: Gorllewin Canolbarth Cymru 
  • Her Adfywio Cardiopwlmonaidd (CPR):
    Enillwyr ar y Cyd Cymru Gyfan: Sinead Melinn a Matthew Penny, Trelái, a Beth Barton a Damien Burnell, Y Bont-faen.
    Enillydd y Timau Gwadd: Surrey 
  • Her Achub â Rhaff:
    1af: De Cymru
    2il: Dyfnaint a Gwlad yr Haf
    3ydd: Canolbarth a Gorllewin Cymru 

Dywedodd Roger Magan, Rheolwr Grŵp, yr Adran Hyfforddiant:   

“Roedd y timau a gymerodd ran yn yr her yn wynebu sefyllfaoedd realistig a heriol ar draws pob disgyblaeth i brofi eu gwybodaeth a’u sgiliau a datblygu arfer gorau a rhagoriaeth weithredol.     

Mae’r her hon yn fforwm gwych i ddysgu, datblygu a rhannu sgiliau achub technegol sy’n cael eu trosglwyddo i hyfforddiant gwasanaeth i barhau i ddatblygu arfer gorau yn broffesiynol.  

Da iawn i’r holl gystadleuwyr a diolch yn fawr iawn i’r holl staff, ein partneriaid Babcocks a’r cynhyrchwyr offer a gynorthwyodd gyda hwyluso’r digwyddiad mewn ffordd broffesiynol  .”