Furflen Gais Cadetiaid Tân

Mae GTADC wedi ymrwymo i ddiogelu’r data sydd gennym a’i brosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn diogelu ac yn prosesu eich gwybodaeth, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd.

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 18fed Awst

    Young Person Details:

    This form should be completed by the parent / guardian for any Young Person under the age of 18. If necessary, the form can be completed by a nominated scribe.

    This next section is mandatory- Please complete all field criteria.

    Cyswllt Brys 1:

    Cyswllt Brys 2:

    Cydsyniad:

    Drwy lofnodi'r ffurflen atgyfeirio hon rydych yn cadarnhau bod gennych gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn/person ifanc a enwir, ac rydych yn cydsynio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (“GTADC”) brosesu eich data personol chi a data personol y plentyn/person ifanc at ddibenion cymryd rhan yn y Cadetiaid Tân.

    Derbyniad Rhiant/Gwarcheidwad

    Gwybodaeth Feddygol:

    Fel gwasanaeth rydym yn anelu at fod mor gynhwysol â phosibl a gallwn addasu ein hamserlen / gweithgareddau i gynnwys gofynion/amodau yn ôl yr angen.

    Rhaid i Riant/Gwarcheidwad lenwi pob adran isod a darparu manylion yn ôl yr angen.

    A oes gan yr ymgeisydd unrhyw un o'r canlynol?

    Rwy’n cydsynio i’m plentyn gael meddyginiaeth yn unol â’r cyfarwyddyd ac unrhyw driniaeth frys gan gynnwys anesthetig neu drallwysiad gwaed fel y bo’n angenrheidiol gan yr awdurdodau meddygol sy’n bresennol.

    Byddem yn ceisio cysylltu â chi cyn ceisio triniaeth.

    YeNa

    Gwybodaeth bellach:

    Rhaid i’r person ifanc lenwi pob adran isod a rhoi manylion yn ôl yr angen. (Gall Rhiant/Gwarcheidwad ysgrifennu ar ran y person ifanc os oes angen.)

    Ein Hymroddiad i Chi:

    Rydym yn deall y gall fod angen cymorth ychwanegol mewn rhai achosion i alluogi ymgeisydd i gymryd rhan lawn yn y Broses Ddethol (e.e. dyslecsia). Nodwch unrhyw ofynion cymorth a allai fod gennych isod. Mae'r wybodaeth hon yn ein galluogi i sicrhau y bydd y trefniadau priodol ar eich cyfer. Cedwir y manylion hyn yn gwbl gyfrinachol ac ni fydd yn berthnasol i unrhyw benderfyniad yn y broses Ddethol.

    Cod Ymddygiad Cadetiaid Tân:

    Mae Hyfforddwyr Cadetiaid Tân yn gyfrifol am gynnal ymddygiad priodol ymhlith Cadetiaid Tân. Mae Hyfforddwyr, Gwirfoddolwyr a Chadetiaid yn cynrychioli’r Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) a rhaid iddynt gofio eu cyfrifoldebau i’r gymuned, gan sicrhau ymddygiad cwrtais a phroffesiynol bob amser.

    Rhestrir isod yr elfennau o'r cod ymddygiad i'w dilyn gan Hyfforddwyr, a Chadetiaid fel ei gilydd a byddant yn ffurfio contract y cytunwyd arno pan gaiff ei lofnodi.

    • Mae’n ofynnol i Gadetiaid Tân a Hyfforddwyr ymddwyn mewn modd cwrtais a disgybledig heb wneud dim i ddwyn anfri ar y GTA.

    • Rhieni/Gofalwyr sy’n gyfrifol am ddiogelwch y Cadetiaid wrth deithio i ac o leoliad y Cadetiaid.

    • Ni ddylai Cadetiaid fynd i mewn i Orsaf Dân heb oruchwyliaeth na chyrraedd mwy na 30 munud cyn cychwyn y sesiwn. Rhaid i hyfforddwyr gyrraedd cyn y Cadetiaid.

    • Mae pob gwisg/OAP a roddwyd yn dal i fod yn eiddo i'r GTA a rhaid eu cadw mewn cyflwr da a'u dychwelyd ar gais y GTA.

    • Rhaid i bob Cadét a Hyfforddwr wisgo gwisg lawn gael ei gwisgo gan wrth fynychu sesiynau Cadetiaid Tân ac achlysuron swyddogol, ac ni cheir ei gwisgo ar unrhyw achlysur heblaw am weithgareddau swyddogol Cadetiaid Tân.

    • Rhaid peidio â gweithredu unrhyw offer y Gwasanaeth Tân heb oruchwyliaeth.

    • Bydd pob eiddo personol yn cael ei drin â pharch.

    • Rhaid rhoi gwybod i Hyfforddwr am unrhyw ddifrod neu golled gwisg neu offer cyn gynted â phosibl.

    • Rhaid i Gadetiaid Tân a Hyfforddwyr gadw'r adeilad yn lân ac yn daclus bob amser

    • Ni chaniateir ysmygu yn ystod Sesiynau Cadetiaid Tân nac wrth ymgymryd â Gweithgareddau Cadetiaid Tân.

    • Mae'n ofynnol i Gadetiaid Tân a Hyfforddwyr fod yn daclus pan fyddant mewn gwisg. Rhaid clymu gwallt hir yn ôl a rhaid iddo beidio â chuddio'r wyneb mewn unrhyw ffordd yn ystod yr ymarferion.

    • Ni ddylid gwisgo gemwaith gweladwy yn ystod gweithgareddau iard ymarfer.

    • Rhaid hysbysu'r Hyfforddwyr ar unwaith am unrhyw ddamwain, anaf a damwain a fu bron â digwydd wrth gyflawni Gweithgareddau Cadetiaid Tân a'u cofnodi'n briodol yn unol â gweithdrefnau'r GTA.

    • Rhaid i Gadetiaid Tân gydymffurfio â'r holl gyfarwyddiadau a roddir gan Hyfforddwyr.

    • Rhaid i Gadetiaid Tân a Hyfforddwyr gymhwyso agwedd o degwch, cydraddoldeb a pharch at eraill. Ni fydd iaith anllad neu sarhaus yn cael ei goddef.

    • Ni chaniateir gwm cnoi yn ystod sesiynau neu weithgareddau Cadetiaid Tân

    • Rhaid diffodd ffonau symudol personol a'u cadw mewn lleoliad diogel yn ystod sesiynau/gweithgareddau Cadetiaid Tân. Ni fydd y GTA yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am eiddo personol.

    • Bydd Cadetiaid Tân nad ydynt yn dilyn y cod ymddygiad hwn yn destun Proses Ddisgyblu'r Cadetiaid Tân.

    Cadarnhaf fy mod wedi darllen a deall y cod ymddygiad a chytunaf i gydymffurfio â phob un o’r pwyntiau uchod.

    Cadét (ymgeisydd)

    Rhiant/Gwarcheidwad

    Cyfleoedd Cyfartal:

    Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd cyfartal. Er mwyn monitro effeithiolrwydd ein polisi byddem yn ddiolchgar pe byddech chi'n ateb y cwestiynau canlynol. Mae'r wybodaeth hon yn gyfrinachol ac fe'i defnyddir at ddibenion monitro yn unig.

    Sylwch: Nid yw cwestiynau Tarddiad Ethnig yn ymwneud â chenedligrwydd, man geni na dinasyddiaeth. Maent yn ymwneud â lliw a grŵp ethnig cyffredinol - gall dinasyddion y DU berthyn i unrhyw un o'r grwpiau a nodir.

    Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

    Mae ein gwaith papur ar gael yn y Gymraeg neu'r Saesneg.