Ei Mawrhydi, Y Frenhines, 1926 – 2022

Rydym yn drist o glywed bod Ei Mawrhydi, y Frenhines wedi darfod.

Dywedodd Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Huw Jakeway:

“Rwy’n drist iawn o glywed am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines. Mae’n gysur mawr gwybod bod ei theulu a’i hanwyliaid o’i chwmpas ac rwy’n cydymdeimlo â’r Teulu Brenhinol ar yr adeg hon.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cydnabod bod y genedl yn drist o’i cholli, ac fel arwydd o barch, bydd baneri ym mhob un o’n lleoliadau ar draws De Cymru wedi eu hanner gostwng.”

Yn 2022, Ei Mawrhydi, y Frenhines oedd y Frenhines Brydeinig gyntaf erioed i ddathlu Jiwbilî Platinwm, gan nodi 70 mlynedd o wasanaeth.