Arbed arian yn cael ei flaenoriaethu yn lle diogelwch yn arwain at unigolyn yn cael ei ddyfarnu’n euog

Mae landlord dau eiddo yng Nghasnewydd wedi’i ddyfarnu’n euog o 21 o droseddau men perthynas â diogelwch tân ar ddiwedd achos llys wythnos o hyd yn Llys y Goron Caerdydd ar y 10fed o Fehefin 2022.

Cafodd Mr Lewis Marshall ei gyhuddo o droseddau dan y Gorchymyn Diogelwch Tân ers nifer o flynyddoedd yn ôl mewn perthynas â dau eiddo cyfagos ar Ffordd Cas-gwent yng Nghasnewydd.

Roedd y troseddau’n cynnwys methu â chynnal systemau larwm tân a goleuadau argyfwng gweithredol. Mae’r mesurau hyn yn hanfodol os yw preswylwyr am ddianc yn ddiogel os bydd tân. Roedd troseddau pellach yn cynnwys methu â chadw llwybrau dianc yn glir a diffyg mesurau i atal tân a mwg rhag lledu.

Cododd yr erlyniad yn dilyn archwiliad gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a ddarganfu hefyd nad oedd Mr Marshall wedi sicrhau bod Asesiad Risg Tân addas wedi ei gynnal yn yr eiddo. Mae’r asesiad yn hanfodol i sicrhau diogelwch preswylwyr os bydd tân.

Yn ystod y gwrandawiad, clywodd y rheithgor fod y rhagofalon tân yn yr eiddo yn hollol annigonol ac wrth gloi, dywedodd y barnwr, Ei Anrhydedd y Barnwr Vosper QC, fod Mr Marshall wedi “anwybyddu’r mater yn llwyr… [ac] yn syml heb fynd i’r afael â” gofynion diogelwch tân hanfodol, er bod hysbysiadau ffurfiol y Gwasanaeth yn egluro beth yn union oedd angen ei wneud.

Yn ystod yr archwiliadau a gynhaliwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, canfuwyd bod un o’r eiddo mor beryglus y bu rhaid rhoi Hysbysiad Gwahardd, gan ei gwneud yn drosedd i feddiannu rhai o’r fflatiau. Fodd bynnag, torrwyd yr hysbysiad hwn pan ganfuwyd tystiolaeth, yn ystod arolygiad dilynol, a oedd yn profi bod pobl yn dal i ddefnyddio’r fflatiau gwaharddedig.

Dywedodd Simon Roome, Rheolwr Grŵp a Phennaeth Adran Diogelwch Tân i Fusnesau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Ein rôl ni yw gweithio gyda busnesau a landlordiaid ar draws De Cymru i’w cefnogi i amddiffyn eu busnesau rhag y risg o dân. Mae angen i’r rhai sy’n gyfrifol am fflatiau a thai amlfeddiannaeth (HMO) dalu sylw i’r dyfarniad hwn a sicrhau bod preswylwyr yr eiddo y maent yn gofalu amdanynt yn ddiogel ac nad ydynt yn torri’r Rheoliadau Diogelwch Tân. Bwriad y ddeddfwriaeth diogelwch tân yr ydym yn ei gorfodi, a elwir yn Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, yw cadw preswylwyr yn ddiogel. Lle canfyddwn achosion o dorri’r ddeddfwriaeth hon, mae’n ddyletswydd arnom i gymryd camau i atal marwolaeth neu anaf difrifol.

“Nid yw’r penderfyniad i erlyn busnesau byth yn cael ei wneud heb bwyso a mesur, fodd bynnag roedd risg difrifol i’r preswylwyr, a phriodolwyd hyn yn uniongyrchol i weithredoedd yr unigolyn oedd yn gyfrifol.”

Mae disgwyl i Mr Marshall gael ei ddedfrydu fis nesaf.

Os oes gennych bryderon am ddiogelwch tân neu os hoffech ragor o wybodaeth aeich i ein Tudalen Diogelwch a Lles.