Staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ddarparu brechiadau Covid-19

O ganlyniad i’r broses nodi amrywiolion Coronafeirws newydd sy’n dod i’r amlwg ledled y byd, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cynyddu’r ymgyrch frechu, yn enwedig mewn perthynas â chyflwyno’r brechiadau atgyfnerthu. 

Mae staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i chynnig cymorth mewn canolfannau brechu ar draws De Cymru. Bydd staff sy’n brofiadol ac yn fedrus mewn meysydd megis cymorth cyntaf a gofal trawma hefyd yn gweinyddu’r brechlynnau i gynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

Bydd y brechiadau’n cael ei ddarparu’n bennaf gan y tri Bwrdd Iechyd Lleol (BILl); Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn y Canolfannau Brechu Cymunedol.

Dywedodd Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM: ‘Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ar draws ystod eang o feysydd i sicrhau’r lefel orau o ddiogelwch, atal ac ymateb i’n cymunedau. ‘R wy’n falch dros ben o’r sawl a gamodd ymlaen i gynnig cymorth yn ystod y cyfnod digynsail a heriol hwn. Mae diogelwch ein staff yn hanfodol bwysig ac rydym yn gweithio’n agos gyda Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân i sicrhau bod yr holl asesiadau risg yn cael eu cyflawni a nodi’n glir sut y byddwn yn diogelu ein pobl wrth wneud y gwaith hwn. Bydd y cymorth hwn yn cael ei ddarparu yn ysbryd y bartneriaeth a chydweithredu sy’n bodoli eisoes ac a rennir ar draws teulu’r gwasanaethau brys yng Nghymru.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i fonitro’n agos yr holl ganllawiau a chyngor a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â Covid-19. Gyda’n gilydd rydym yn unedig yn ein hymroddiad i fod yma ar gyfer ein cymunedau a chadw’r bobl rydym yn eu gwasanaethu’n ddiogel.