Hyfforddeion newydd ran mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau gweithgareddau a dysgu awyr agored heriol ac ysbrydoledig I annog lles corfforol ac iechyd meddwl

Hyfforddeion newydd ran mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau gweithgareddau a dysgu awyr agored heriol ac ysbrydoledig I annog lles corfforol ac iechyd meddwl

Dechreuodd ein hyfforddeion diffoddwyr tân diweddarach eu cwrs gyda digwyddiad awyr agored newydd sbon yr wythnos diwethaf.

 

Am y tro cyntaf erioed, mae Tîm Hyfforddi a Datblygu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi dechrau cynnal eu rhaglen hyfforddi yn yr awyr agored, gan ymgorffori’r golygfeydd gwych yng Nghanolfan Gweithgareddau Awyr Agored Parkwood, Dolygaer, Pontsticill, i daith eu hyfforddeion.

 

Dros gyfnod o ddeuddydd, cymerodd yr hyfforddeion newydd ran mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau gweithgareddau a dysgu awyr agored heriol ac ysbrydoledig, a gynlluniwyd i gefnogi adeiladu tîm, datblygu sgiliau a hefyd annog lles corfforol ac iechyd meddwl.

 

Ymunodd cydweithwyr o Adran Adnoddau Dynol y Gwasanaeth a thîm o hyfforddwyr hyfforddi arbenigol â’r hyfforddeion, a fydd yn cwblhau eu rhaglen hyfforddi yng Nghanolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gyda phob un ohonynt yn canmol y gweithgaredd yn fawr.

 

Dywedodd Sean Jenkins, Rheolwr Grŵp, Pennaeth Darparu Hyfforddiant gyda GTADC: “Pleser pur oedd croesawu ein hyfforddeion a chychwyn eu hyfforddiant gyda hwn, oedd yn brofiad newydd sbon.

“Maen nhw’n gweithio’n dda iawn fel rhan o dîm ehangach yn barod ac mae’n wych gweld pawb yn croesawu’r heriau a’r gwersi yr ydym wedi’u gosod.

“Rydym yn ymwybodol iawn o fanteision lles bod yn yr awyr agored ac felly roedd hwn hefyd yn lleoliad gwych i ni gyflwyno elfen iechyd meddwl a lles y cwrs hyfforddi, a thrafod manteision siarad a chefnogi ein gilydd ar y cyd.

“Edrychwn ymlaen at eu cefnogi ar hyd y cwrs wrth iddo fynd yn ei flaen a dymunwn bob daioni i bob un ohonynt.”