Penwythnos Bendigedig Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ym Mis Medi

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru â phresenoldeb mawr ym Mae Caerdydd rhwng yr 28ain a’r 30ain o Fedi, gan gynnal un o’r digwyddiadau her achub mwyaf y DU, y daith gerdded/rhedeg 5 cilomedr i’r teulu o’r Twnnel i’r Tŵr gyntaf erioed yn ogystal â’r Pentref Diogelwch Ardderchog gyda gweithgareddau ac adloniant di-ri i’r teulu i gyd. 

Ar yr 28ain a’r 29ain o Fedi fel rhan o Her Caerdydd, sef Sefydliad Achub o fri yn y DU (UKRO), bydd dros 600 o ymladdwyr tân mwyaf medrus y DU yn cystadlu mewn achub fffug gan gynnwys achub â rhaff, achub o’r dŵr, achub o gerbydau a chystadlaethau chwilio ac achub trefol a leolir ym Mhlas Roald Dahl a’r cyffiniau. Gan fod Tîm Datgymalu Pen-y-bont ar Ogwr yn bencampwyr y DU a’r byd, mae llawer yn y fantol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn y gystadleuaeth frwd hon, gyda gwobrau a theitlau cenedlaethol niferus i’w hennill.

Ar ddydd Sul y 30ain o Fedi bydd y Gwasanaeth yn cynnal y daith gerdded a rhedeg 5 cilomedr o’r Twnnel i’r Tŵr gyntaf erioed, a drefnwyd gan Dîm Codi Arian Ymladdwyr Tân GTADC ac a leolir yng Ngorsaf Ganol Caerdydd. Cychwynnwyd y daith hon yn yr Efrog Newydd yn wreiddiol er cof am yr Ymladdwr Tân Stephen Siller, a aberthodd ei fywyd dros bobl eraill ar yr 11eg o Fedi 2001 yn nigwyddiad y ddau Dŵr. Erbyn hyn cynhelir y digwyddiad ledled y byd, gan anrhydeddu ymroddiad ac aberth holl staff y gwasanaethau brys.

Dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal yng Nghymru ac mae’n agored i bobl o bob oed. Bydd yr holl arian a godir er budd Sefydliad Stephen Siller Foundation a’r Elusen Ymladdwyr Tân.

Bydd y digwyddiad ymlaen o Ddydd Gwener i Ddydd Sul a bydd y Gwasanaeth hefyd yn cynnal rhaglen helaeth iawn o weithgareddau i’r teulu ym mhentref Diogelwch Ardderchog GTADC a Phlas Roald Dahl a’r cyffiniau. Bydd ein partneriaid amryfal gan gynnwys Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, aelodau o Ddiogelwch Dŵr Cymru, Techniquest, a Chwaraeon Caerdydd yn ymuno â ni, a bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau  efelychwyr gyrru Rhithwirioneddol, sesiynau hoci galw heibio, arddangosfeydd cŵn heddlu, gweithdai Techniquest gan gynnwys peli tân â llaw, yn ogystal â chorau, dawns, theatr a Thîm Catrawd Parasiwt y Red Devils.

Bydd ardal arbennig i blant yn llawn o weithgareddau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru Ddydd Gwener a Dydd Sadwrn tan 2:00yp. Bydd y rhain yn cynnwys; ‘Mwd a Gwreichion’ a chyfle i brofi a dysgu mwy am dân a natur tân yn ein tanau gwersyll dan do, yn ogystal â gemau bwrdd Nadroedd a Fflamau enfawr i dimau neu unigolion a gweithgareddau crefft.

Bydd gweithdai am ddim yn archwilio’r elfennau gan gynnwys Rasys Cychod a Yrrir gan Aer, sy’n gysylltiedig â diogelwch dŵr, peli hadau i godi ymwybyddiaeth o’r ddaear a’r amgylchedd ac ysgrifennu drwy losgi a fydd yn dysgu sut i ddefnyddio tân yn ddiogel. Darperir y rhain gan gwmni addysg yn y gymuned o’r enw Eggseeds, ac yn ogystal â hyn oll ceir beic swigod arbennig sy’n archwilio rhesymau ffiseg wrth i aer symud.

Ceir cyfle hefyd i ymwelwyr ifanc cael cynnig ar brofi ein cit tân a chael tro ar rai o swyddi GTADC, gan weithio ochr yn ochr â’n tim Achub o’r Dŵr a’n tîm Ystafell Reoli a chwrdd â’n Cadetiaid Tân ifanc.

Dywedodd Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân GTADC, “Rydym yn falch dros ben i gynnal Her UKRO 2018 ac edrychwn ymlaen at groesawu cyfranogwyr a chefnogwyr o bedwar ban y byd i Fae Caerdydd ym mis Medi.”

“Fel Gwasanaeth rydym yn frwd iawn am ddatblygu dysgu yn ogystal â gwneud De Cymru’n ddiogelach. Bydd yr heriau achub a’r Pentref Diogelwch yn cynnig cyfleoedd di ben draw i bawb ddysgu ychydig a byw yn ddiogelach!

Mae Her UKRO yn ffordd heb ei hail i ddangos sgiliau ac ymroddiad anhygoel staff gwasanaethau brys ledled y byd, gan ddynwared sefyllfaoedd brys gwirioneddol o fewn meysydd megis: Datglymu Cerbydau, Gofal Trawma, Chwilio ac Achub Trefol, Achub â Rhaff ac Achub o’r Dŵr. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i weld hyn oll yn digwydd ar draws ardal Bae Caerdydd.

Yn dilyn y diwrnodau her, bydd y daith gerdded 5 cilomedr o’r Twnnel i’r Tŵr yn ffordd arbennig i gloi’r digwyddiad.  Mae’r daith gerdded neu redeg hon ar agor i’r teulu i gyd a bydd ymladdwyr tân yn cymryd rhan gan wisgo eu cit llawn.  I gael mwy o wybodaeth a chofrestru ewch i: www.cardifftunnel2towers.com.

Bydd yr holl weithgareddau yn y Pentref Diogelwch Ardderchog ac ar draws y safle i gyd yn rhad ac am ddim a chynhelir y gweithgareddau o 10:00 tan 17:00 bob dydd.

Cynhelir y digwyddiad o’r 28ain i’r 30ain  o Fedi ym Mhlas Roald Dahl, Canolfan Mileniwm Cymru a’r cyffiniau.  I gael manylion llawn am yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau, ewch i: Her UKRO 2018 yn anelu at Gymru a dilynwch @UKROCaerdydd ar Drydar I gael y newyddion diweddaraf.