Hafanau Diogel: Rhaff Achub yn ein Gorsafoedd
Lansiwyd menter Hafan Ddiogel ym mis Awst 2022 gan olygu y gall pob un o’n 47 gorsaf dân ledled De Cymru gynnig lloches i unrhyw un sy’n ffoi rhag perygl neu’n profi gofid. Mae gan bob gorsaf fotwm Hafan Ddiogel, sy’n rhybuddio staff sydd ar ddyletswydd — neu, os nad oes neb yn bresennol, yn cysylltu’n uniongyrchol â gweithredwr 999.
Mae’r botwm yn darparu ffordd gyflym a syml i’r rhai sydd mewn perygl – gan gynnwys pobl sy’n ffoi rhag trais domestig neu’n teimlo’n anniogel ar y strydoedd — gael mynediad i gymorth ar unwaith. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn y DU yn parhau i fod yn fater pryderus iawn. Bydd un o bob pedair menyw yng Nghymru a Lloegr yn profi cam-drin domestig yn eu hoes, ac mae’r heddlu’n derbyn galwad sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig bob 30 eiliad1. Mae ein botymau Hafan Ddiogel yn un ffordd y gallwn helpu i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed yn ein cymunedau.
Dywedodd Prif Swyddog Tan Fin Monahan:
“Rwy’n falch iawn bod y botymau Hafan Ddiogel yn parhau i gael eu defnyddio gan y cyhoedd ar adegau trallodus. Er mai ein prif rôl fel Gwasanaeth yw ymateb i danau ac achosion achub, rwyf am i bobl wybod ein bod ni yma i’w hamddiffyn — beth bynnag fo’r bygythiad, gan gynnwys trais yn erbyn menywod a merched.
“Fel tad fy hun, mae’n destun pryder mawr nad yw fy merched yn dal i deimlo’n ddiogel wrth gerdded ar eu pennau eu hunain trwy dref neu ddinas gyda’r nos. Rwy’n falch y gall staff ein gorsafoedd ddarparu cymorth a chefnogaeth i fenywod a merched mewn perygl.
“Yn y pen draw, hoffwn pe na bai angen y botymau Hafan Ddiogel, ond maent yn rhaff achub hanfodol i’r rhai sydd mewn perygl. Maent wedi profi i fod yn ffordd effeithiol i bobl geisio cymorth a dod o hyd i ddiogelwch — os ydych chi’n ffoi rhag trais domestig neu’n teimlo’n anniogel ar y strydoedd.”
“Os ydych chi mewn perygl ac angen cymorth ar unwaith, gall eich gorsaf dân agosaf gynnig cymorth — ond ffoniwch 999 yn gyntaf mewn argyfwng bob amser.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch neu os ydych chi’n dioddef o drais domestig, yna ewch i wefan Refuge.
1 Refuge (dim dyddiad) Ffeithiau ac ystadegau: Nid yw’r niferoedd yn dweud celwydd. Ar gael yn: https://www.refuge.org.uk/what-is-domestic-abuse/the-facts/ (Wedi’i gyrchu: 7fed Gorffennaf 2025).