Diffoddwr Tân a Milwr: Cydbwyso Gwasanaeth Deuol gydag Ymroddiad
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn falch o gefnogi’r Diwrnod Lluoedd Wrth Gefn drwy gydnabod rôl milwyr wrth gefn o fewn ein gweithlu a’r gymuned ehangach.
Mae’r sgiliau, yr ymroddiad a’r profiadau y mae milwyr wrth gefn yn eu hennill o’u hyfforddiant milwrol yn gwella eu cyfraniadau wrth ymateb i argyfyngau a sefyllfaoedd diogeli’r cyhoedd, gan eu gwneud yn ased i’n gweithlu.
Person o’r fath yw’r Rhingyll Gweinyddol Milwyr Chris Locke, sy’n Ddiffoddwr Tân ymroddedig gyda’r Wylfa Werdd yng Ngorsaf Dân Pontypridd, ac yn Filwr Wrth Gefn gyda Chatrawd 157, y Corfflu Logisteg Brenhinol, wedi’i leoli ym Marics Maendy, Caerdydd.
Ymunodd Locke â GTADC wyth mlynedd yn ôl fel Diffoddwr Tân wrth gefn, cyn trosglwyddo i wasanaeth Llawn Amser dair blynedd yn ôl.
“Roedd dod yn ddiffoddwr tân yn freuddwyd plentyndod,” meddai. “Roeddwn i eisiau helpu pobl erioed.”
Breuddwyd arall oedd gan Locke yn blentyn oedd dod yn filwr. Ymunodd â’r Fyddin yn 16 oed, gan wasanaethu am chwe blynedd, ac ailymuno fel Milwr Wrth Gefn yn 2014. Nawr, gyda dros ddeng mlynedd yn y Lluoedd Wrth Gefn, mae’n cydbwyso’r ddwy rôl gyda phenderfyniad a balchder.
“Gall fod yn straen ac mae jyglo’r ddwy swydd yn cymryd llawer o amser,” cyfaddefodd. “Ond rydw i wedi cael cefnogaeth wych gan Becki, fy ngwraig fy meibion Alfie a Myles a’r ddau gyflogwr. Mae hyn wir yn cynnig y gorau o’r ddau fyd.”
Mae Locke yn rhoi clod i’w hyfforddiant milwrol am hybu ei hydwythdedd, ei ffitrwydd a’i sgiliau arweinyddiaeth – rhinweddau y mae’n eu defnyddio’n ddyddiol yn y gwasanaeth tân. “Mae’r hydwythdedd meddyliol, y gwaith tîm, a hyd yn oed yr hyfforddiant antur i gyd yn eich helpu i deimlo’n gryfach,” meddai.
“Mae pob diwrnod fel diffoddwr tân yn wahanol –un antur fawr yw e i gyd a chymaint yw’r ymdeimlad o berthyn, i fy ngwylfa, a’r gymuned ehangach hefyd.”
Dywedodd Jake Alpert, Pennaeth Staff GTADC: “Mae milwyr wrth gefn yn dod â llawer o brofiad a sgiliau proffesiynol i’n gwasanaeth, gan gynnwys disgyblaeth a’r gallu i weithio’n dda o dan bwysau.
“Fel llofnodwr Cyfamod y Lluoedd Arfog, rydym wedi ymrwymo i gefnogi cyn-filwyr a milwyr wrth gefn o fewn ein rhengoedd ac rydym yn falch o’u haberth a’u hymroddiad wrth wasanaethu yn eu rolau sifil a milwrol.”
Sylwodd Is-Gyrnol Tom Shaw, Swyddog Rheoli Locke, ei fod yn “ddiffoddwr tân a milwr eithriadol,” gan dynnu sylw at y sgiliau trosglwyddadwy o ran arweinyddiaeth a gwaith tîm a ddatblygwyd trwy hyfforddiant milwrol.
I unrhyw un sy’n ystyried gyrfa yn y Gwasanaeth Tân neu’r Lluoedd Wrth Gefn, mae cyngor Locke yn syml: “Rhowch gynnig arni. Fyddwch chi byth yn gwybod pa gyfleoedd a ddaw are ich cyfer.”
Mae GTADC yn cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac mae wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr sy’n gyfeillgar i’r lluoedd arfog.