Cefnogi ein cymunedau a hyrwyddo amrywiaeth yn Pride Cymru 2025
Roedd aelodau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn falch o gymryd rhan yn Pride Cymru 2025 y penwythnos hwn, gan sefyll â’n cymuned LHDTC+ i ddathlu amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb.
Cynhaliwyd Pride Cymru yng nghanol Caerdydd a dyma’r dathliad mwyaf o hunaniaeth a chynnydd yng Nghymru, gan ddod â dros 50,000 o bobl ynghyd. Mae’n anrhydedd i GTADC fod yn rhan o’r digwyddiad bywiog ac ysbrydoledig hwn – atgof pwerus o bwysigrwydd cymuned, parch a gweithredu gydag uniondeb.
Yn cynrychioli GTADC roedd dros 30 o gydweithwyr o bob rhan o’r Gwasanaeth, gan gynnwys diffoddwyr tân, staff yr ystafell reoli, timau corfforaethol, ac uwch arweinwyr yn cerdded yn yr orymdaith. Cynigion nhw gyngor gwerthfawr am ddiogelwch tân, a gwybodaeth recriwtio, gan ddangos balchder yn ein hymrwymiad i gefnogi holl aelodau o’n cymunedau.
Mae ein presenoldeb yn Pride Cymru yn rhan bwysig o’n gwaith parhaus i adeiladu gweithle cynhwysol, parchus, sy’n adlewyrchu’r cymunedau amrywiol sy’ cael eu gwasanaethu gennym. Mae hwn yn gyfle ystyrlon i gysylltu, gwrando, a pharhau i lunio diwylliant y mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo.
Mae e’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fyw yn ôl ein gwerthoedd ac mae hefyd yn cefnogi ein nodau gan gynnwys Amrywiaeth, Cynhwysiant, Cydlyniant a Thegwch (DICE), o fewn ein prosiect newid a thrawsnewid. Ein nod yw adeiladu diwylliant teg, cynhwysol a chyfartal ar draws GTADC, gan gofleidio amrywiaeth, grymuso ein gweithlu, a sbarduno cynnydd ystyrlon mewn cynrychiolaeth a thegwch.
Mynychwyd y digwyddiad Pride gan y Prif Swyddog Tân, Fin Monahan, a bwysleisiodd bwysigrwydd y digwyddiadau hyn:
“Mae hi’n bwysig ein bod ni’n dangos ein hymrwymiad i barch, cynhwysiant a chydraddoldeb i bawb ar draws ein holl gymunedau. Mae mynychu Pride yn un o’r ffyrdd yr ydym yn dangos ein bod ni’n sefyll gyda’n cydweithwyr LHDTC+ a’r gymuned ehangach ill ddau, gan ddathlu amrywiaeth a sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gweld, a’u gwerthfawrogi a’u bod yn teimlo’n ddiogel.”
Sylwodd Comisiynydd Kirsty Williams:
“Pleser oedd cael ymuno â chydweithwyr yn Pride Cymru a dathlu’r amrywiaeth sy’n cryfhau ein cymunedau. Mae cefnogi digwyddiadau fel hyn yn dangos ein hymrwymiad ar y cyd i gynhwysiant a chynnydd.”
Pwysleisiodd Matthew Collins, Partner Busnes DICE, bwysigrwydd cymorth gweladwy:
“Mae bod yn rhan o Pride Cymru yn rhan allweddol o ddangos ein cefnogaeth a’n cynghreiriaeth i’n cydweithwyr LHDTC+ a’r gymuned ehangach. Dyma ffordd amlwg i’n hatgoffa mai nid gwerth i’w drafod yn unig yw cynhwysiant — ond rhywbeth rydym yn ei fyw ac yn ei hyrwyddo’n weithredol ar draws y Gwasanaeth.”
Fel Gwasanaeth, rydym yn angerddol dros amddiffyn y 1.5 miliwn o bobl o fewn De Cymru ac rydym yn ymroddedig o hyd i hyrwyddo cydraddoldeb a chroesawu amrywiaeth ym mhopeth a wnawn. Gallwch ddarllen mwy am bwy ydym ni yn ein strategaeth newydd yma.