Lansio’r Academi Arweinyddiaeth

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi lansio ei Academi Hyfforddiant Gweithredol, Arweinyddiaeth a Datblygiad Personol. Wedi’i lleoli ym Mhorth Caerdydd, bydd yr Academi yn gatalydd i rymuso ein staff ar draws y sefydliad i ddod yn arweinwyr arloesol, tosturiol a llwyddiannus.

Mae’r Gwasanaeth wedi gweld newidiadau sylweddol yn ystod y 18 mis diwethaf, yn dilyn Adolygiad Fenella Morris, gan gynnwys staff newydd, strategaethau, protocolau a ffyrdd o feddwl yn gyrru’r sefydliad yn ei flaen. Gyda lansiad yr Academi, rydym eisiau creu sefydliad sy’n dod ag arfer gorau ynghyd, a hefyd ddod yn sefydliad y mae eraill yn dod ato, i ddysgu arfer gorau. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni newid sut rydym yn cefnogi, grymuso a chynyddu eich sgiliau chi, ein pobl. Mae’r Academi yn ymwneud â datblygiad ehangach, gan sicrhau bod pawb yn y sefydliad yn cael cyfle i feithrin eu sgiliau arwain a’u datblygiad personol trwy hyfforddiant wedi’i dargedu.

Yn ystod y digwyddiad lansio, a gynhaliwyd Ddydd Llun 28ain Ebrill 2025, cymerodd staff GTADC a chynadleddwyr allanol ran mewn cyfres o weithdai a gwersi a ddysgwyd am arweinyddiaeth o fewn y Gwasanaeth, gan gynnwys: arddangosiad Chwilio ac Achub (yn cynnwys Cooper y ci chwilio ac achub), Blas ar Hyfforddiant Arwain Digwyddiad Critigol a Hyfforddiant Grŵp. Dilynwyd hyn gan drafodaeth gyda phanel gyda Dr Katherine Griffiths (Meddyg Iechyd Galwedigaethol), Fin Monahan (Prif Swyddog Tân), Jake Alpert (Pennaeth Staff newydd) ac Arweinydd Strategol newydd yr Academi, George Gilbert.

Prif Swyddog Tân Fin Monahan, a arweiniodd yr ymgyrch dros yr Academi a phwysleisiodd fod arweinyddiaeth yn agwedd yr ydym yn rhagori arno’n barod fel Gwasanaeth, “Mae gennym ni eisoes arweinyddiaeth ragorol ar yr ochr weithredol, ar faes digwyddiadau. Rwyf wedi gweld hynny droeon erbyn hyn – mae’n wych. Hefyd mae tîm dysgu a datblygu arweinyddiaeth gyda ni, sydd hefyd yn darparu ein ‘llwybrau datblygu’ rhagorol.”

Soniodd ymhellach am bwysigrwydd yr Academi; “Mae angen i ni hefyd fuddsoddi mewn meddwl cysyniadol o ran y ffordd rydym yn meddwl, y ffordd rydym yn ymladd tanau ac achub pobl yn y dyfodol i sicrhau ein bod ni ar y brig wrth i ni ddod yn fwy modern. Wrth fwrw golwg yn ôl ar hanes gwasanaethau gwisg sy wedi bod yn wirioneddol lwyddiannus wrth iddynt gael eu ffurfio neu eu moderneiddio, mae thema ganolog. Y thema honno yw eu bod wedi buddsoddi o ddifri yn eu had dysg, eu hyfforddiant, a’u diwylliant. Mae angen i fi sicrhau bod yr arweinwyr a’r wybodaeth sydd eu hangen ar draws y sefydliad wedi’u grymuso a bod ganddynt y wybodaeth a phrofiad ar y lefel briodol i’w galluogi i wneud penderfyniadau sy’n sefydlogi’r sefydliad mewn ffordd lawer gwell, Os taw ddiffoddwr tân newydd, rheolwr gwylfa, neu arweinydd strategol ydych chi, bydd llwybr datblygu clir sy’n cefnogi eich twf personol a phroffesiynol.”

Yn arwain y ffordd mae Georgina Gilbert – Arweinydd Strategol yr Academi. Mae George yn ddiffoddwr tân yng ngorsaf Maendy ac mae wedi bod gyda GTADC ers dros 26 mlynedd. Mae profiad gweithredol helaeth gyda hi ac mae hefyd yn gweithio fel siaradwr cyhoeddus, anturiaethwr, a hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol.

Gweithiodd ar y cyd i sefydlu Angylion Tân yr Antarctig, sef pâr o ddiffoddwyr tân y DU a gwblhaodd alldaith i sefydlu record i Begwn y De yn gynnar yn 2024 i ysbrydoli menywod a merched i ymestyn eu disgwyliadau. Yn adnabyddus am ei hydwythedd a’i hegni, mae George wedi herio stereoteipiau yn gyson gan hyrwyddo amrywiaeth o fewn y sector tân ac achub.

“Diffoddwr tân ydw i o hyd, a byddaf yn gweithio eto fel diffoddwr tân – ar ôl gwneud rhywbeth hollol anhygoel, a fyddai’n ar gael yn y gorffennol ar lefel uwch.”

Mae ei phenodiad yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus GTADC i gynhwysiant, arloesedd, ac arweinyddiaeth gref ar draws yr holl lefelau’r gwasanaeth. Mae’r Academi yn gam mentrus wrth lunio gwasanaeth tân ac achub sy’n barod ar gyfer y dyfodol — sy’n arwain yn bwrpasol, yn dysgu heb derfynau, ac yn grymuso pob unigolyn i ffynnu.