Ymladdwyr Tân yn galw ar ffermwyr i’w cynorthwyo wrth fynd i’r afael â thanau glaswellt yn Ne Cymru

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn galw ar y gymuned ffermio i’w cynorthwyo wrth fynd i’r afael â thanau glaswellt, drwy losgi unrhyw hen laswellt diffaith sydd ar eu tir.

Ddydd Iau, yr 22ain o Fawrth, bydd ymladdwyr tân yn cynnal eu llosgiad partneriaeth cyntaf ar y cyd â ffermwr yng Nghwm Rhymni: gan obeithio y bydd y cam hwn yn annog mwy o ffermwyr a pherchnogion tir i ddatblygu “cynlluniau llosgi” diogel ac effeithiol.

Yn 2017, cafwyd 80 o danau damweiniol a 1073 o danau bwriadol ar draws De Cymru a bydd y cam arloesol hwn, sy’n tynnu ar ddulliau profedig llwyddiannus ar draws y byd, yn cael ei hyrwyddo gan bedwar Tîm Llosgi dan Reolaeth arbenigol ar draws de Cymru a leolir yng Ngorsafoedd Merthyr Tudful, Tonypandy, Aberdâr ac Aberbargoed.

Dywedodd Del Llewellyn, Swyddog Ymgysylltu â Pherchnogion Tir Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Rydym eisoes yn defnyddio llawer o ddulliau profedig i ymgysylltu â’r cyhoedd mewn perthynas â thanau glaswellt, ond dyma’r tro cyntaf i ni weithio’n uniongyrchol gyda ffermwr i ystyried y broblem.

“Mae lledaeniad tanau gwyllt yn dibynnu ar nifer o ffactorau: un ohonynt yw faint o danwydd sydd ar gael i’w losgi. O gael gwared ar y tanwydd hwn, a gweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir, gellir cyflawni’r broses hon yn ddiogel a dan reolaeth.

“Yn ogystal â’n gwaith codi ymwybyddiaeth ac atal o fewn cymunedau, mae gweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir fel hyn â gwir botensial i leihau nifer y tanau glaswellt, sy’n achosi cymaint o ddifrod a dinistr ar draws ein cymunedau bob blwyddyn.”

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn perthyn i Ddawns Glaw, sef dasglu amlasiantaethol a sefydlwyd i leihau nifer y tanau glaswellt bwriadol yng Nghymru. Mae’r ymgyrch yn addysgu perchnogion tir ynghylch peryglon ac effaith llosgi anghyfreithlon y tu allan i’r cyfnod dynodedig, ac yn codi ymwybyddiaeth am ganlyniadau tanau glaswellt bwriadol, a allai arwain at erlyniad.