Ymbil ar y Cyhoedd i Ddeall Peryglon Dŵr yn dilyn dros 600 o achosion o foddi mewn 12 mis

Wrth i’r cyfyngiadau Covid-19 cyfredol lacio, rhagdybir bydd nifer yn anelu am leoliadau arfordirol a mannau hardd ein dyfroedd mewndirol. Yn ddiweddar, bu farw mwy o bobl yn y DU o foddi damweiniol nag o feicwyr ar ein ffyrdd. Doedd bron i chwech allan o bob deg (58%) o’r bobl a fu farw o ganlyniad i ddamwain yn y dŵr yn bwriadu mynd i’r dŵr o gwbl.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n cefnogi ymgyrch Byddwch yn Ddiogel o Gwmpas Dŵr y Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol (CPTC) rhwng y 26ain o Ebrill a’r 2il o Fai i addysgu a rhybuddio am y peryglon wrth dreulio amser yn y dŵr ac o’i amgylch. Mae’r Gwasanaeth yn bartner gweithredol i Ddiogelwch Dŵr Cymru – tasglu o asiantaethau allweddol sydd â diddordeb mewn diogelwch yn y dŵr ac atal boddi sydd â’i nod o addysgu a gostwng achubiadau sy’n ymwneud â dŵr.

Y llynedd, bu farw 634 o bobl yn y DU mewn achosion o foddi – cynnydd sylweddol ar y flwyddyn flaenorol. Gyda chanolfannau hamdden a phyllau nofio’n parhau ynghau, efallai bydd dŵr agored megis y môr, cronfeydd dŵr, llynnoedd, afonydd, pyllau a llynnoedd chwarel yn ymddangos yn opsiwn deniadol ar gyfer ymdrochiad sydyn neu weithgareddau dŵr, yn enwedig os y’u lleolwyd yn agos at ardaloedd trefol. Er efallai gall y dŵr fod yn atyniadol ar ddiwrnod poeth, yn aml bydd yn cuddio ystod o beryglon.

Dilynwch ychydig o awgrymiadau syml i barhau’n ddiogel o amgylch dŵr;

  • Peidiwch byth â nofio ar eich pen eich hun rhag ofn i chi fod angen help
  • Peidiwch byth ag yfed alcohol wrth ymgymryd â gweithgarwch sy’n ymwneud â dŵr – mae’n amharu ar eich crebwyll a’ch gallu i nofio
  • Ceisiwch osgoi cerdded ar hyd llwybrau sydd gerllaw dŵr os ydych chi wedi bod yn yfed alcohol
  • Peidiwch â phlymio neu neidio’n syth i ddŵr agored – gall hyn achosi sioc dŵr oer sydd â’r potensial i fod yn farwol, hyd yn oed ar y diwrnod mwyaf poeth
  • Goruchwyliwch eich plant yn weithredol o fewn ac o gwmpas dŵr – mae boddi’n gallu digwydd yn gyflym a thawel
  • Os byddwch yn canfod eich hun yn ddiarwybod mewn dŵr, peidiwch â dychryn – ymestynnwch eich breichiau a’ch coesau ac arnofiwch ar eich cefn hyd nes bydd effeithiau’r sioc dŵr oer wedi pasio
  • Peidiwch byth â mynd i’r dŵr i geisio achub rhywun – galwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân os yn fewndirol a Gwylwyr y Glannau os ydych ar yr arfordir

Mwy o wybodaeth diogelwch YMA.

Dywedodd Rheolwr Ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Chadeirydd Grŵp Ymarferwyr Diogelwch yn y Dŵr CPTC Garry Davies: “Os ydych yn cynllunio gwyliau adref eleni, p’un ai trip i’r traeth neu fwynhau mannau prydferth mewndirol Cymru sy’n ymylu ar ddŵr, cofiwch gadw’n ddiogel a pheidiwch â chymryd unrhyw risgiau dianghenraid. Rydym am i’n cymunedau fwynhau ein cefn gwlad a’n mannau arfordirol, ond wrth addysgu, sicrhau eu bod yn ymwybodol o beryglon dŵr. Dylai unrhyw un sydd yn agos at ddŵr fod yn ymwybodol o’u cynefin, fod yn ymwybodol o newidiadau’r llanw, ufuddhau arwyddion diogelwch ynghyd â dilyn canllawiau’r llywodraeth.”

Cadwch lygad allan am ymgyrchoedd #DeallPeryglonDŵr a #ParchwchYDŵr ar y cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth a chyngor diogelwch.

Adnoddau: