Ymarferion o gwmpas dŵr ar draws ein hardal

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn cynnal gweithgareddau achub rhag llifogydd ac achub o ddŵr ar draws yr ardal o Ddydd Mawrth y 24ain o Hydref i Ddydd Iau, y 26ain o Hydref 2023. Bydd y gweithgareddau hyn yn darparu hyfforddiant hanfodol i weithwyr a sefydliadau partner os bydd llifogydd eang yn yr ardal.

Caeth yr ymarfer hwn ei gynllunio ymlaen llaw, cyn y rhybudd tywydd coch sydd mewn grym ar gyfer sawl ardal o’r DU dros y penwythnos.

Yr ymarfer aml-asiantaeth fydd y cyntaf i gynnwys Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), a fydd yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill a Gwasanaethau Tân ac Achub.

Dylai aelodau’r cyhoedd fod yn ymwybodol y bydd llawer o’r gweithgareddau achub yn cynnwys dymis a ‘anafedigion’ byw, sy’n wirfoddolwyr, a fydd yn cynorthwyo yn y dŵr. Os ydych chi yn unrhyw un o’r lleoliadau a restrir isod yn ystod yr wythnos, cewch fod yn dawel eich meddwl bod y bobl hyn mewn dwylo diogel.

Mae ymarferion hyfforddi yn cynnwys pobl sydd ar goll yn y dŵr, achubiadau o fwd, achub o gychod, a cherbydau yn y dŵr. Bydd yr ymatebion yn cynnwys achub o gychod, nofwyr, achub o lannau a chwilio.

Mae’r rhestr o leoliadau ar gyfer y digwyddiadau hyfforddi hyn fel a ganlyn:

  • Dydd Mawrth y 24ain o Hydref – Cae Ras Cas-gwent
  • Dydd Mercher y 25ain a Dydd Iau, y 26ain o Hydref – senarios hyfforddi yn Aberogwr, Afon Wysg yng Nghasnewydd, Parc Bryn Bach, Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Afon Gwy ger Abaty Tyndyrn, Afon Taf ger cored Radur ac Ynysgynwraidd.

Dywedodd Darren Cleaves, Pennaeth yr Orsaf,

“Roedd yr ymarfer hwn wedi’i gynllunio ymlaen llaw cyn y rhybudd tywydd coch mewn sawl ardal o’r DU dros y penwythnos, ac ni allai fod yn fwy amserol. Cymerodd ein Canolfan Reoli Tân ar y Cyd tua 70 o alwadau am Wasanaethau eraill rhwng bore Dydd Gwener a bore Dydd Sadwrn, a bydd yr ymarfer hwn yn cynnwys gwahanol Wasanaethau Tân ac Achub yn gweithio gyda’i gilydd ar arfer gorau o ran ymateb i lifogydd – felly byddwn yn dysgu llawer oddi wrth ein gilydd.”