Ymarfer Hyfforddi Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru

Yn ddiweddar, mynychodd Tîm Chwilio ac Achub Trefol (ChAT) Cymru ymarfer hyfforddi yng Nghanolfan Hyfforddi Waddington, Swydd Lincoln. Roedd hwn yn efelychu sefyllfa lle byddai’n rhaid i ChAT Cymru ymateb i ddigwyddiad ar raddfa fawr y tu allan i Gymru, ar arfordir Dwyrain Lloegr. Aeth y tîm yno fel confoi ChAT a oedd yn cynnwys saith cerbyd arbenigol a phedwar ar ddeg o Dechnegwyr ChAT.

Mae Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (ChAT Cymru) yn cynnwys aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) – sy’n derbyn hyfforddiant o arbenigedd uchel mewn amgylcheddau Chwilio ac Achub Trefol.

Roedd y tîm yn hunangynhaliol wrth ymarfer, fel y byddent mewn digwyddiad. Roedd gofyn i’r tîm sefydlu Sylfaen Gweithrediadau, logisteg ac ardaloedd diheintio.

Trwy ddefnyddio amrywiaeth o offer arbenigol, nod yr ymarfer hyfforddi pedwar diwrnod oedd profi, datblygu a mireinio galluoedd y tîm o ran gorchmynion a rheolaeth, gweithdrefnau radio cenedlaethol, gweithrediadau ar uchder, cynnal setiau sgiliau, technegau torri ar gyfer metel a choncrit a chwilio ac achub o fewn mannau cyfyng.

Yn ystod ail ddiwrnod yr ymarfer roedd aelodau’r tîm yn cymryd rhan mewn ffrwydrad ffug lle’r oedd dau berson ar goll.  Rhoddodd hwn gyfle i ymarfer y technegau cywir ar gyfer torri concrit ac er mwyn defnyddio ci chwilio ChAT Cymru, Cooper, a ddaeth o hyd i ardak o ddiddordeb yn gyflym, gan alluogi’r tîm i ddefnyddio eu cyfarpar chwilio technegol i ddod o hyd i’r cleifion a chyfathrebu â nhw.

Roedd aelodau’r tîm hefyd yn gallu datblygu a gweithredu cynlluniau achub technegol, gan gynnwys asesu’r sefyllfa, dewis y dechneg achub briodol a gweithredu protocolau ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd brys.

Dywedodd Gareth Lewis, Rheolwr Tîm ChAT Cymru:

“Roedd y lleoliad hwn yn dyst i’n parodrwydd a’n harbenigedd.  Fe wnaeth ein tîm ragori mewn sefyllfa realistig, gan ddangos ein gallu i ymateb yn gyflym i unrhyw ddigwyddiad yng Nghymru a thu hwnt er mwyn cefnogi ein partneriaid ledled y DU.

Rydym yn hynod falch o gynnal y safonau a amlinellir yn y ddogfen Cysyniad o Weithrediadau ChAT.”