Y Glas ac Wythnos Diogelwch Tân Myfyrwyr 2023

Wrth i Haf 2023 ddod i ben, bydd y rhai sy’n dechrau eu blynyddoedd cyntaf neu’n dychwelyd i’r brifysgol yn cymryd rhan yn wythnosau’r glas ledled y wlad.

Mae y Glas yn digwydd wythnos cyn ein menter ein hunain, ‘Wythnos Diogelwch Tân Myfyrwyr’,. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) felly’n cyfuno’r negeseuon i addysgu myfyrwyr newydd am fod yn ddiogel rhag tân yn eu hamgylcheddau newydd.

Mae myfyrwyr sy’n symud i brifysgol yn aml yn symud oddi cartref am y tro cyntaf, a gall hynny fod yn brofiad cyffrous a brawychus. Yn aml mae gan fyfyrwyr newydd wybodaeth a dealltwriaeth gyfyngedig am ddiogelwch tân. Dyna pam mae GTADC yn mynychu Wythnosau’r Glas ar draws De Cymru gyfan, i ymgysylltu â myfyrwyr a chynnig cyngor am sut i gadw’n ddiogel yn eu llety newydd, gan gynnwys neuaddau preswyl, neu breswylfeydd preifat.

Os gwelwch unrhyw un o’n tîm yn y digwyddiadau hyn, dewch i ddweud helo, a chadwch lygad am y wybodaeth ddefnyddiol y byddwn yn ei rhannu ar draws ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr wythnos.

Cynghorion call i fyfyrwyr – 

Dilynwch y cyngor hwn:

  • Cadwch allanfeydd tân a llwybrau dianc yn glir
  • Gofynnwch am gyngor os byddwch chi’n ansicr am baratoi bwyd yn defnyddio offer trydanol
  • Byddwch yn arbennig o ofalus wrth ddefnyddio offer sythu neu sychu gwallt
  • Sicrhewch fod canhwyllau ynghyn yn ddigon pell o wrthrychau fflamadwy, a’u bod yn cael eu diffodd cyn i chi adael ystafell
  • Dylech chi ymateb yn gyflym i larymau tân, a gwacáu’r adeilad yn ddiogel
  • Dylech wybod ble mae eich llwybr dianc

Peidiwch â:

  • Gorchuddio larymau mwg
  • Gadael i sbwriel gronni, yn enwedig yn y mynedfeydd
  • Ymyrryd ag offer diogelwch tân, megis diffoddwyr tân, larymau tân neu arwyddion allanfa dân
  • Anwybyddu larymau tân neu larymau mwg
  • Gorlwytho socedi plwg
  • Ysmygu dan do
  • Coginiwch os ydych chi wedi meddwi neu os nad ydych chi’n canolbwyntio

 

E-feiciau ac e-sgwteri:

  • Defnyddiwch y gwefrwr a gymeradwywyd gan y gwneuthurwr a dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer gwefru a storio
  • Ceisiwch osgoi eu storio neu eu gwefru mewn cynteddau neu wrth ddrysau, achos gallai hyn rwystro llwybrau dianc
  • Peidiwch â’u storio na’u gwefru wrth ymyl unrhyw beth a allai fynd ar dân
  • Peidiwch â gwefru batris dros nos neu os nad ydych chi gerllaw
  • Cadwch e-feiciau ac e-sgwteri mewn llefydd oer, yn hytrach na llefydd poeth iawn neu oer iawn
  • Ceisiwch osgoi ceblau estyn amhriodol a pheidiwch â gorlwytho socedi.

A chofiwch;

os oes tân, ewch allan! Arhoswch allan! Ffoniwch 999!