Y Faner Werdd yn hedfan yng Ngorsaf Tân Bro Ogwr

Mae’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi ennillwyr Gwobr Y Faner Werdd eleni – y marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o safon.

Mae Gorsaf Tân Bro Ogwr wedi ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd mewn cydnabyddiaeth o’i ymdrechion amgylcheddol, glendid, diogelwch a chyfranogiad y gymuned.

Dywedodd Matt Bradford, Rheolwr Gorsaf Bro Ogwr:

“Ar ran fi a’r tîm ym Mro Ogwr, mae’n fraint ac yn anrhydedd mawr i ni dderbyn y wobr hon. Mae’n anhygoel mai ni yw’r Orsaf Dân gyntaf a’r unig un yn y DU i dderbyn y wobr hon. Mae’r ardd ar gyfer y gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu 24/7 365 diwrnod y flwyddyn.

Rydym yn gobeithio y bydd yr ardd yn dod â llawer o ymgysylltiad cymunedol ac yn cynnig gofod ar gyfer myfyrio a llesiant.

Rydym yn croesawu’r gymuned i ymuno â ni ar bob cyfle, dyma eu gardd gymunedol.Mae 180 o fannau gwyrdd wedi eu rheoli gan y gymuned wedi cyrraedd y safon uchel sydd ei hangen i ennill Baner Werdd Gymunedol.

Bellach yn ei thrydydd degawd, mae’r Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sydd wedi eu rheoli’n dda, mewn 20 o wledydd ar draws y byd.”

Cafodd Gardd Gorsaf Dân ac Achub Cwm Ogwr ei hagoriad mawreddog ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf 2023, ac mae’n agored i bawb.

Yng Nghymru, mae’r cynllun gwobrwyo yn cael ei redeg gan Cadwch Gymru’n Daclus. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Y Faner Werdd i Cadwch Gymru’n Daclus:

“Mae mynediad am ddim i ardaloedd gwyrdd o safon uchel a diogel mor bwysig ag erioed. Mae ein safleoedd penigamp yn chwarae rôl allweddol yn iechyd meddwl a chorfforol pobl, drwy gynnig hafan i gymunedau ddod at ei gilydd, ymlacio a mwynhau natur.”

“Mae’r newyddion bod y nifer uchaf erioed o fannau gwyrdd a reolir yn gymunedol yng Nghymru wedi ennill gwobr Y Faner Werdd yn dangos gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dathlu eu llwyddiant ar lefel fyd-eang.”

Mae rhestr lawn o’r enillwyr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru