4ydd-8fed o Ragfyr 2023

Mae’n debyg y byddwch chi wedi gweld darllediadau o Gynhadledd y Partïon 28 (COP28) ar y newyddion – cynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Emiradau Arabaidd Unedig. Er  gwaethaf yr holl ddadleuon, mae hon yn gyfle tyngedfennol i unioni cwrs yr argyfwng hinsawdd a chyflymu gweithredu yn ei gylch. Mae’r byd yn pwyso a mesur y cynnydd ar Gytundeb Paris – y cytundeb hinsawdd byd-eang nodedig gan gynllunio camau gweithredu i leihau allyriadau’n sylweddol yn ogystal ag amddiffyn bywydau a bywoliaethau.

Cynhelir Wythnos Hinsawdd Cymru ar yr un pryd. Mae’r wythnos yn annog sgwrs o fewn Cymru ar newid yn yr hinsawdd. Byddai hynny’n rhoi cyfle i ystod eang o randdeiliaid rwydweithio a chymryd rhan mewn trafodaethau pwysig am sut y gall Cymru chwarae ei rhan wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Thema Wythnos Hinsawdd eleni hefyd yn un o’r cwestiynau pwysicaf sy’n wynebu ein cymdeithas ar hyn o bryd:

Sut mae mynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg?

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau trosglwyddiad cyfiawn i economi gwyrddach, mwy cynaliadwy nad yw’n dibynnu ar danwydd ffosil. Mae hyn yn golygu ymagwedd a yrrir gan yr egwyddor arweiniol o beidio â gadael neb ar ôl.

Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn cynnwys cynhadledd rithwir 5 diwrnod o hyd a fydd yn edrych ar effeithiau anghymesur newid yn yr hinsawdd ar wahanol bobl, grwpiau, sefydliadau a lleoedd. Bydd hefyd yn archwilio sut mae’r buddion sy’n gysylltiedig â pholisïau hinsawdd newydd yn cael eu dosbarthu’n deg ar draws y gymdeithas. Gallwch gofrestru ar gyfer sesiynau neu ddarganfod mwy yma.

Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, rydym ni, fel gweddill sector cyhoeddus Cymru, yn gweithio tuag at ennill statws carbon sero net erbyn 2030. Mae hyn yn golygu ein bod yn lleihau allyriadau carbon o fewn ein hadeiladau, ein fflyd a’n cadwyn gyflenwi. Byddwn felly’n gwrthbwyso’r allyriadau hynny ni ellir ei leihau o fewn gweithrediadau (buddsoddi mewn cyfleoedd atafaelu carbon) – dychmygwch hafaliad cytbwys, a dyna’r cytgord y dymunwn ei gyrraedd.

Rydym hefyd yn gweithio gyda phobl ar lawr gwlad, lle gweithredwn yn bresenoldeb dibynadwy a lle gallwn gynnig llais ac eirioli dros bobl o fewn ein cymunedau ar faterion diogelwch a thegwch. Wrth wneud hyn byddwn hefyd yn addasu i fyd sy’n cynhesu a’i oblygiadau, yn enw lleihau risg, codi ymwybyddiaeth a diogelu’r amgylchedd.

Gwyddem fod rhaid i dechnoleg a seilwaith gerdd â ni hanner ffordd, ond rhaid i ni hefyd gael cefnogaeth ac ymrwymiad gan bobl o fewn y sefydliad. Mae’n rhaid i ni ddeall yr heriau sy’n ein hwynebu, a’r hyn y gallwn ninnau ei wneud i helpu – a gall pawb wneud rhywbeth.

Yn 2024, byddwn yn lansio ein rhwydwaith Hyrwyddwyr Cynaliadwyedd yn swyddogol, gan lunio rhaglen hyfforddi cynaliadwyedd a rhoi system rheoli amgylcheddol newydd ar waith. Rydym am gael gwell sgyrsiau am yr hinsawdd a gweld mwy o weithredu o fewn y gwasanaeth gan rymuso pobl i chwarae eu rhan er mwyn cyrraedd ein nodau, yn y ffordd decaf bosibl heb adael neb ar ôl.