Wythnos Gwirfoddolwyr: Amser i ddweud diolch

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr (1af – 7fed Mehefin 2022) yn ddathliad blynyddol yn cydnabod cyfraniadau miliynau o bobl ledled y DU drwy wirfoddoli.

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn defnyddio’r amser hwn i ddiolch i’n holl wirfoddolwyr gweithgar ac ymroddedig am ein helpu i gadw cymunedau De Cymru yn ddiogel.

Bydd Wythnos Gwirfoddolwyr eleni yn cael ei chynnal yn ystod y ‘Mis y Gymuned’, gan ddod â sefydliadau ynghyd drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau a drefnwyd i’n hannog ni i gyd i feddwl am ac ymuno â gweithgareddau sy’n digwydd yn ein cymunedau lleol.

Mae cyfraniad gwirfoddolwyr yn aml heb ei weld a heb ei gydnabod gan lawer, ac mae dim ond yn weladwy trwy effaith anhygoel eu gwirfoddoli.

Dywedodd Michelle Turner, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Mae gennym ni grŵp gwych o 27 o wirfoddolwyr sy’n awyddus i gymryd rhan a dod â chymysgedd gwych o wahanol sgiliau a thalentau i’r Gwasanaeth. Eu gweithgaredd mwyaf cyffredin yw cefnogi’r gwaith hyrwyddo a chyflwyno negeseuon diogelwch yn y cartref a’r ffyrdd yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau lleol, digwyddiadau a mentrau ymgysylltu. Mae rhai hefyd yn gallu mynd â cherbydau cymorth amrywiol i ddigwyddiadau cymunedol ac oddi yno, ac mae eraill yn cynorthwyo yn ystod diwrnodau recriwtio ac asesu.

Cafodd y mwyafrif o’n gweithgareddau gwirfoddoli eu gohirio yn ystod y pandemig, ond erbyn hyn rydym yn dechrau gweld digwyddiadau cymunedol yn digwydd unwaith eto, ac mae ein gwirfoddolwyr yn awyddus dros ben i gymryd rhan eto!”

Rydym am gydnabod pawb sydd wedi parhau i gyflawni gwaith hanfodol fel gwirfoddolwyr dros y 12 mis diwethaf a’r rhai sydd fel arfer yn gwirfoddoli hefyd, ond sy wedi cael eu hatal rhag gwneud achos y pandemig. Byddwn yn defnyddio’r cyfle hwn i anfon ‘Diolch’ o galon i’n gwirfoddolwyr am eu pwyll ac amynedd wrth i weithgareddau gael eu gohirio, ac edrychwn ymlaen at flwyddyn gadarnhaol o wirfoddoli. Gwyliwch ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth!

Ymunwch â ni eleni i gydnabod y cyfraniad bendigedig y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud a dweud diolch!

I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn Wythnos Gwirfoddolwyr eleni, ewch i: https://volunteersweek.org/