Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 2018

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 2018 sy’n canolbwyntio ar sut i fod yn Gall o gwmpas Beiciau.

Mae’r ymgyrch genedlaethol, a arweinir gan elusen diogelwch ar y ffyrdd o’r enw Brake, yn codi ymwybyddiaeth ynghylch diogelwch defnyddwyr ffordd sy’n agored i niwed.

Mae dadansoddiad newydd gan Brake yn dangos bod y rhai sy’n teithio ar ddwy olwyn yn 63 gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol fesul milltir na gyrwyr ceir. Ar gyfartaledd, caiff beiciwr neu feicwyr modur ei ladd neu ei anafu’n ddifrifol bob awr ar ffyrdd Prydain.

Mae Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 2018 yn galw ar yrwyr i fod yn ‘Gall o gwmpas Beiciau’ (Bike SMART’) a bod yn fwy ymwybodol o feiciau drwy fabwysiadu’r pwyntiau canlynol:

  • arafu, gan roi mwy o amser i sylwi ar berygl ac ymateb;
  • edrych yn ofalus am feiciau cyn tynnu allan ar gyffyrdd;
  • gadael o leiaf 150cm rhwng ceir a beic wrth oddiweddyd;
  • a thrwy ddefnyddio’r llaw arall i agor drws car (yr hyn a elwir yn ‘Dutch Reach’) er mwyn osgoi bwrw pobl â drysau ceir.

Dywedodd Rheolwr Diogelwch y Ffyrdd, Stuart Townsend:

“Mae hwn yn ddigwyddiad tyngedfennol o’r flwyddyn i ni, gan ei fod yn gyfle i ni fel Gwasanaeth godi ymwybyddiaeth o ddefnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed a helpu i leihau’r niferoedd sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd yn Ne Cymru.”

Adroddwyd 4549 o ddigwyddiadau yn ymwneud â phob cerbyd yng Nghymru y llynedd; gan gynnwys 615 o ddigwyddiadau oedd yn ymwneud â Beiciau Modur, gyda 23 yn cael eu lladd a 234 wedi’u hanafu’n ddifrifol, a 463 o ddigwyddiadau oedd yn ymwneud â Beiciau pedalu, gyda 3 yn cael eu lladd a 108 yn cael eu hanafu’n ddifrifol. (Llywodraeth y DU, Ystadegau Damweiniau ar y Ffyrdd ym Mhrydain, 2017)

Mae beicwyr a beicwyr modur yn gyfrifol am bron i 4 allan o bob 10 o holl farwolaethau ac anafiadau difrifol ar ffyrdd Prydain, sef cyfanswm o 9,740 yn 2017 neu, ar gyfartaledd, un farwolaeth neu anaf difrifol yn ymwneud â beiciau bob awr.

Mae marwolaethau o ganlyniad i feicio hefyd yn gyfrifol am dros chwarter o’r holl farwolaethau ar y ffyrdd ym Mhrydain, gyda chyfanswm o 101 o farwolaethau beicwyr a 349 o farwolaethau beicwyr modur yn 2017. (Llywodraeth y DU)

Ystadegau Damweiniau ar y Ffyrdd ym Mhrydain, 2017).

Cynhaliodd y Gwasanaeth Tân ac Achub ddigwyddiad arbennig i Feicwyr mewn Damweiniau yng Ngorsaf y Rhath yr wythnos hon i edrych ar reoli lleoliadau damweiniau, cymorth cyntaf i feicwyr a sut i fod yn weladwy. Mae digwyddiadau fel hyn yn cynorthwyo â chefnogi beicwyr i gymryd ycamau ataliol gorau posibl i sicrhau eu bod yn gofalu amdanynt eu hunain ar y ffyrdd yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth gyrrwyr o ddefnyddwyr ffyrdd eraill.

Cynhelir Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd rhwng yr 19eg a’r 25ain o Dachwedd ledled y DU. Gallwch gael rhagor o wybodaeth http://www.roadsafetyweek.org.uk.