Menywod yn y Gwasanaeth Tân – Digwyddiad Hyfforddi a Datblygu Cenedlaethol 2023

Roedd chwe aelod o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ffodus i fynychu Digwyddiad Hyfforddi a Datblygu Cenedlaethol eleni a gynhaliwyd gan Menywod yn y Gwasanaeth Tân.

Ymwelodd cynrychiolwyr o’r gwasanaethau tân ac achub ledled y DU â Choleg y Gwasanaeth Tân yn Morton dros dridiau ar ddechrau mis Mehefin, ar gyfer rhaglen orlawn o weithdai ymarferol a rhyngweithiol, siaradwyr gwadd, seremoni wobrwyo, gweithgareddau ffitrwydd a llawer mwy. Roedd y digwyddiad yn ofod i fenywod sy’n gweithio yn y gwasanaethau tân ac achub gysylltu â gweithwyr proffesiynol o’r un anian ar draws llu o wasanaethau.

Dywedodd cynrychiolydd rhanbarthol a Diffoddwr Tân, Clare Amor o Orsaf Maindee:

“Mae’r penwythnos datblygu 21ain WFS hwn, “yn gryfach gyda’n gilydd”, wedi rhoi chwistrelliad o ysbrydoliaeth, positifrwydd, grymuso a chwerthin i’r cynrychiolwyr a fynychodd a’r gwirfoddolwyr a wnaeth i’r penwythnos ddigwydd. Rwy’n falch iawn o’r merched a fynychodd eleni ac yn gobeithio mae cefnogaeth GTADC ar gyfer y digwyddiad hwn yn parhau y flwyddyn nesaf, felly gall mwy o gynrychiolwyr fynychu a chael profiad o’r hyn y mae sefydliad WFS yn ei olygu.”