Diweddariad – Storm Dennis

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn parhau i gefnogi ac ymateb i’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan Storm Dennis dros y penwythnos. Derbyniodd ein hystafell Rheoli Tân ar y Cyd lefel digyffelyb o fwy na 1300 o alwadau; gan gynnwys galwadau’n ymwneud ag achub bywyd, gwagio eiddo a phryderon mewn perthynas â llifogydd.

Cyflawnwyd nifer sylweddol o achosion achub bywydau gan ddiffoddwyr tân, gan gynnwys digwyddiadau lle’r oedd bywydau mewn perygl uniongyrchol o ganlyniad i’r amodau peryglus a oedd yn bodoli. Derbyniwyd dros 350 o alwadau brys ar gyfer ardaloedd Pontypridd, Nantgarw ac Aberdâr yn unig. O ganlyniad i gymorth ein partneriaid yn y gwasanaethau brys, roeddem yn gallu dargyfeirio galwadau nad oeddent yn rhai brys, gan ganiatáu i’n hadnoddau gael eu ffocysu ar alwadau 999 allweddol.

Deallwn fod y tarfu’n sylweddol a bod llawer o bobl yn dal i ddelio â chanlyniadau’r storm ddinistriol hon. Hoffem ddiolch i’r cyhoedd am eu cydweithrediad dros y penwythnos gan gynnig sicrwydd ein bod ar gael i’n cymunedau pryd bynnag y bydd angen. Er bod y sefyllfa ar draws y rhanbarth yn dangos arwyddion o welliant, mae rhybuddion a negeseuon cyhoeddus yn parhau i fod ar waith ac mae’n rhaid eu hufuddhau a’u parchu.

Rydym yn gwerthfawrogi’r holl gymorth a gawsom gan asiantaethau partner, mudiadau gwirfoddolwyr a’n cymunedau yn ystod y cyfnod heriol hwn. Yn ystod y tywydd garw roedd gennym tua 300 o ddiffoddwyr tân ar ddyletswydd yn weithredol bob adeg. O ganlyniad i’r nifer fawr o alwadau, gofynnodd GTADC am gymorth cenedlaethol o ran offer arbenigol gan gynnwys cychod achub. Cadwyd y rhain gerllaw, ond nid oedd eu hangen gan fod y sefyllfa wedi gwella rhwng canol a diwedd y prynhawn.

Hoffem ddiolch hefyd i bersonél GTADC a wirfoddolodd i gynorthwyo a gweithio er mwyn helpu’r gymuned gyfan. Ni allem ganmol digon ar yr ysbryd cymunedol sy’n bodoli yn ne Cymru, gan gynnwys eu hamynedd a pharodrwydd i ddilynodd y negeseuon diogelwch oedd yn newid yn barhaus.

Fel Gwasanaeth rydym yn cael ein syfrdanu a’n cyffwrdd gan y gweithredoedd o garedigrwydd a chefnogaeth a ddangoswyd gan ein cymunedau i’n diffoddwyr tân ac i’r gymuned ehangach yn gyffredinol.

Diolch.