Tân Glaswellt Mawr yn Wattsville yn Effeithio ar 80 Hectar o Laswelltir a Choedwigaeth

Amser cinio ddoe (y 15fed o Ebrill 2020), cawsom adroddiadau am dân glaswellt mawr yng nghefn Ystâd Ddiwydiannol Black Vein, Wattsville.

Ar ôl cyrraedd, roedd y criwiau’n wynebu tân yn lledaenu’n gyflym gan effeithio ar 80 hectar o laswelltir a choedwigaeth. Dros gyfnod y digwyddiad, danfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru chwe injan dân, dau gerbyd tanau gwyllt arbenigol a hofrennydd i’r lleoliad a gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gwent, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdod lleol.

Roedd hwn yn ddigwyddiad anodd a heriol arall gyda phartneriaid yn mynd i’r afael â’r sefyllfa dros oriau lawer i reoli’r tân hwn. Arhosodd y gwasanaethau brys yn y fan tan iddi nosi gan ddelio â phocedi bach o dân a mwg ac er mwyn gwneud yn siwr nad oedd y tân yn effeithio ar y cymunedau cyfagos.

Dywedodd Matt Jones, Rheolwr Digwyddiadau: “Rydym yn gofyn i aelodau o’r cyhoedd roi unrhyw wybodaeth a allai fod ganddynt a allai ein helpu i ganfod achos y tân. Mae ein criwiau o bob rhan o Dde Cymru wedi bod yn gweithio mewn amodau anodd a heriol i sicrhau nad yw’r tân yn lledu ac yn effeithio ar y gymuned leol ac yn niweidio’r ardal gyfagos a bywyd gwyllt ymhellach. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y tanau gwair bwriadol gysylltu â 101 yn syth, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Dylai unrhyw un sy’n gweld tân, neu rywun yn dechrau tân, ffonio 999 ar unwaith.”